Cilgerran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 200px|bawd|[[Castell Cilgerran : y tŵr gorllewinol a'r bont fynediad i'r cwrt mewnol]] Mae '''Cilgerran''' yn bentref yng ngogledd Sir Benfro, g...
 
ehangu / rhyngwici
Llinell 1:
[[Delwedd:DSCN3808-e-tower.jpg|200px|bawd|[[Castell Cilgerran]] : y tŵr gorllewinol a'r bont fynediad i'r cwrt mewnol]]
Mae '''Cilgerran''' yn bentrefdref fechan yng ngogledd [[Sir Benfro]], ger [[Aberteifi]]. Saif y pentrefdref ar lethrau deheuol [[Dyffryn Teifi]] gyferbyn â [[Llechryd]]. Mae ffyrdd yn ei gysylltu ag Aberteifi a Llechryd i'r gogledd ac [[Abercuch]] a [[Castell Newydd Emlyn|Chastell Newydd Emlyn]] i'r dwyrain.
 
Yn ymyl y pentrefdref ceir adfeilion [[Castell Cilgerran]], [[castell]] [[Normaniaid|Normanaidd]] o'r [[13eg ganrif]]. Saif y castell ar drwyn o graig uwchlaw [[afon Teifi]]. Credir mai [[castell mwnt a beili]] a godwyd ar y safle yn wreiddiol tua'r flwyddyn [[1100]]. Mae'r castell carreg presennol yn dyddio o ddechrau'r 13eg ganrif.
 
Mae'r cyfeiriad cynharaf at y dref yn dyddio i [[1204]] fel [[maenor]] yr arglwyddiaeth leol ; parhaodd yn faenor hyd yr [[16eg ganrif]]. Er ei bod yn fychan roedd yn cael ei hystyried yn uno brif trefi marchnad Sir Benfro yn yr [[17eg ganrif]], ac fe ddaeth yn fwrdeistref farchnad. Mae'r hynafiaethydd [[George Owen]], yn [[1603]], yn ei disgrifio fel un o bum bwrdeistref ym Mhenfro gyda ''portreeve''.
 
Cynhelir ras [[cwragl]] ger y dref. Mae'r ras, a gychwynwyd yn 1950, yn denu cystadleuwyr o sawl gwlad.
 
Ym mynwent eglwys [[Llawddog]] Sant ceir [[maen hir]] gydag arysgrifiadau [[Ogam]] arno. Hefyd yn y fynwent mae bedd yr anturiaethwr [[William Logan]], a gysylltir â [[Mynydd Logan]], [[Canada]].
 
Bu Cilgerran yn enwog ar un adeg am safon y [[Diwydiant llechi Cymru|llechi a gloddiwyd]] yn yr ardal ac a allforiwyd o [[Aberteifi]].
 
Mae Cilgerran yn un o wardiau etholaethol Sir Benfro gyda'i chyngor etholedig ei hun.
 
 
{{Trefi Sir Benfro}}
{{Eginyn Cymru}}
 
[[Categori:PentrefiTrefi Sir Benfro]]
 
[[en:Cilgerran]]