Moeseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 97 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q9465 (translate me) |
cychwyn ehangu |
||
Llinell 2:
Gellir rhannu hanes moeseg yn y Gorllewin yn sawl rhan, gan gychwyn gyda [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid yr Henfyd]] a gwaith y [[Soffydd]]ion fel [[Protagoras]] ac wedyn athronwyr mawr fel [[Socrates]], [[Platon]] ac [[Aristotlys]]. Ar seiliau gwaith y Groegiaid ond dan ddylanwad ac ysbrydoliaeth amlwg y [[Testament Newydd]], datblygodd moeseg [[Cristnogaeth|Gristnogol]]. Un o foesegwyr mawr yr [[Oesoedd Canol]] oedd [[Thomas Aquinas]] a ddilynodd Aristotlys mewn sawl maes ond a roddodd y pwyslais ar y [[dyletswydd]] i ufuddhau i ddeddfau [[Duw]]. Yn y Cyfnod Modern newidiodd cyfeiriad moeseg a datblygodd [[Naturiolaeth Foesegol]], a welir yng ngwaith [[Thomas Hobbes]], er enghraifft. Ond daeth syniadau eraill i'r amlwg, rhai ohonynt yn wrthwynebus i syniadaeth Hobbes, a chafwyd sawl athroniaeth moes yn cynnwys [[Iwtilitariaeth]], athroniaeth [[Immanuel Kant]] a moeseg ôl-Kantaidd, sy'n ymrannu'n sawl ffrwd.
Ethos bywyd yr unigolyn yw moeseg; moesoldeb yw'r agweddau sy'n ymwneud â phobl eraill a chymdeithas oll, megis dyletswyddau ac iawnderau. Delfrydau'r ddamcaniaeth foesol nodweddiadol yw cyffredinoliaeth ac [[amhleidioldeb]], ac yn aml bydd y damcaniaethwr normadol yn llunio egwyddorion a safonau ymddygiad er mwyn byw'n moesegol. Mae rhai'n gweld y reddf ddynol a synnwyr cyffredin yn sylfeini moeseg. Hyd yn oedd mewn damcaniaethau sy'n honni eu bod yn hollgyffredinol, maent yn "feysydd ffrwydron" moesegol sy'n llawn cyfyng-gyngor a [[dilema|dilemâu]] sy'n ddadleuon cymhleth o egwyddorion, cafeatau, amodau arbennig, ac anghysondebau.
== Moeseg normadol ==
Yn nhraddodiad y Gorllewin, gellir olrhain hanes moeseg ar y cyd ag enwau mawrion athroniaeth ers yr Henfyd. Trin athronwyr Groegaidd moeseg gan archwilio'r [[enaid]], dedwyddwch a mwynhad. [[Socrates]] oedd yr arloeswr moesegol a ofynnodd, "sut y dylem fyw ein bywydau?" Gosododd ei ddisgybl [[Platon]] [[delfrydiaeth|ddelfrydiaeth]] [[metaffiseg|fetaffisegol]] yn sail i'w system foeseg. I raddau, mae moeseg y Gorllewin ers yr Henfyd yn dilyn y ddau lwybr a osodwyd gan Platon ac Aristotlys: y [[rhesymoliaeth|rhesymolwyr]] a'r [[empiriaeth|empiryddion]], y [[rhesymiaeth|rhesymyddion]] (''logicists'') a'r [[pragmatiaeth|pragmatwyr]], a'r dadleuon ''a priori'' ac ''a posteriori''.
=== Moeseg rhinweddau ===
Datganodd [[Aristotlys]], un o ddisgyblion Platon, taw ''eudaimonia'' (ffyniant neu fyd da) yw nod ein bywydau, a [[rhinwedd]] yw mam pob dedwydd. Argymhellod [[addysg foesol]] er mwyn meithrin y foeseg "iawn" gan y boblogaeth.
Parheir syniadaeth Aristotlys yn ddylanwadol ers mwy na dwy fil o flynyddoedd. Hyd heddiw, mae pryderon a chwestiynau'r hen Roegiaid yn tynnu sylw meddylwyr neo-Aristotelaidd: [[perthynolaeth ddiwylliannol]], i ba raddau mae bioleg yn penderfynnu'r hawddfyd, yr angen am hyblygrwydd yn wyneb ffawd, a swyddogaethau a dyletswyddau'r unigolyn yn y gymuned.
=== Athrawiaethau crefyddol a diwinyddiaeth ===
Datblygodd y dair dadl dros fodolaeth Duw: y ddadl [[dibenyddiaeth|ddibenyddol]], y ddadl [[cosmoleg|gosmolegol]], a'r ddadl [[bodeg|fodegol]]. Mae gan y ddadl ddibenyddol yn enwedig oblygiadau pwysig ym maes moeseg.
Un o'r prif anghydfodau ynghylch bodolaeth Duw yw [[problem drwg]], sef esbonio pam bod drwg yn y byd os oes gan Dduw y gallu a'r ewyllus i'w atal. Dadleua [[anffyddiaeth|anffyddwyr]] a gwrth-theistiaid bod presenoldeb drwg yn y byd yn groes i natur honedig Duw. Gofynnodd [[Epicwrws]] (neu o bosib [[Carneades]]) y trilema enwog a osodir gan [[David Hume]] fel y ganlyn: "Os nad yw Duw yn gallu atal drwg, yna nad yw'n hollalluog. Os nad yw Duw yn barod i atal drwg yna nad yw'n hollgaredig. Os yw Duw yn barod i atal drwg ac yn gallu gwneud hynny, yna paham bod drwg?" Ymhlith dadleuon y theistiaid i amddiffyn bodolaeth Duw yw bod drwg yn brawf gan Dduw, yn ganlyniad i'r rhyddid ewyllys a roddir inni gan Dduw, bod presenoldeb drwg yn angenrheidiol yn y byd os oes da i fodoli hefyd, neu bod dioddefaint yn brofiad anhepgor o [[iachawdwriaeth]].
Ceisiodd y mathemategydd [[Blaise Pascal]] betio bob ffordd parthed y byd a ddaw: yn ôl [[cyngwystl Pascal]], mae'n well i unigolyn addoli Duw rhag ofn mae'n bodoli. Beirniada'r defnydd hwn o [[damcaniaeth gemau|ddamcaniaeth gemau]] am fod yn symleiddiad cul sy'n anwybyddu'r amrywiaeth eang o gredoau posib, ac am argymell "ffug-gred" sy'n ceisio twyllo Duw posib.
Cymhlethir natur y drafodaeth ymhellach gan ganfyddiadau [[anthropoleg grefyddol]], sy'n awgrymu taw greddf ddynol yw mytholeg a chred, a'r hen [[problem iaith grefyddol|broblem ynghylch iaith grefyddol]]. Mae gwrth-theistiaid yn gweld y syniad o Dduw ynddo'i hun yn anfoesol, ac yn dadlau hyd yn oed os yw Duw yn bodoli bydd yn well i beidio ag addoli'r fath "gormesydd dwyfol".
=== Dyletswyddeg ===
{{prif|Dyletswyddeg}}
Ystyriodd yr Almaenwr [[Immanuel Kant]] [[rhesymoledd]] a [[rheswm (athroniaeth)|rheswm]] yn elfennau moeseg. Pwysleisiodd annibyniaeth ewyllys yr unigolyn, ac o hynny dadleuodd taw nod y gweithredydd sy'n pennu gwerth moesol y weithred.
=== Canlyniadaeth ===
Tuedd foesegol sy'n canolbwyntio ar y diben, ac felly dyma'r prif os nid unig ystyriaeth wrth pennu gwerth foesol, yw [[canlyniadaeth]]. [[Defnyddiolaeth]] yw'r ddamcaniaeth ganlyniadol amlycaf. Gwelir ei gwreiddiau yn syniadaeth yr [[Epiciwriaid]] a gwaith [[Francis Hutcheson]] a [[Joseph Priestly]]. Gellir ei leoli yn rhan o'r traddodiad [[pleseryddiaeth|pleseryddol]] (neu hedonaidd). [[Jeremy Bentham]] a [[John Stuart Mill]] yw'r ddau Sais a gydnabyddir yn arloeswyr defnyddiolaeth, sy'n hyrwyddo'r lles cyffredin.
=== Dirfodaeth ===
== Metafoeseg a moeseg ddadansoddol ==
== Moeseg gymhwysol ==
=== Anifeiliaid a'r amgylchedd ===
Yn ôl y safbwynt dyn-ganolog, mae'n dderbyniol i fodau dynol defnyddio'r byd o'n cwmpas, gan gynnwys pethau byw, er lles ein hunain. Mae dehongliad iwtilitaraidd yn cyfiawnháu hyn yn arbennig os yw'n gwneud lles i gymdeithas oll: mae'r poen a wnaed yn anffodus ond yn angenrheidiol wrth ystyried y datblygiadau meddygol a ddaw wrth [[arbrofi ar anifeiliaid]].
Dadleua rhai bod dyletswydd ar fodau dynol i warchod [[lles anifeiliaid]], gan ganolbwyntio ar foesoldeb dynol mewn perthynas ag anifeiliaid. Nid yw'r fath syniadau o reidrwydd yn gwahardd defnyddio anifeiliaid er lles y dynolryw (e.e. bwyta [[cig]]), ond yn galw am leiháu'r poen a achosir i anifeiliaid cymaint sy'n bosib. Yn ôl eraill, mae anifeiliaid yn berchen ar hawliau eu hunain, a chyhudda bodau dynol o ragfarn ac erledigaeth ar sail [[rhywogaeth]].
Dadleua "moeseg werdd" o blaid lles neu hyd yn oed hawliau'r blaned a'r [[biota]]. Dywed bod dyletswydd gan fodau dynol i ofalu am [[ecoleg]] y Ddaear drwy [[cadwraeth|gadwraeth amgylcheddol]] a [[cynaladwyedd|chynaladwyedd]] yn ein cymdeithas.
=== Biofoeseg a moeseg feddygol ===
Un o bynciau llosg y byd meddygol, sy'n tynnu ar syniadau crefyddol, cymdeithasol, a gwleidyddol, yw [[erthyliad]]. Yn graidd i'r ddadl mae diffiniad [[persondod]], man cychwyn bywyd, a [[hawliau merched|hawliau'r fenyw]]. Dadleua'r garfan "o blaid bywyd" taw plentyn heb ei eni yw'r [[ffetws]] yn y groth, ac mae ei hawl i fywyd yn bwysicach na hawl y fam i ddewis erthygliad. Ar yr ochr arall, nid yw'r garfan "o blaid dewis" o'r farn taw person neu hyd yn oed bywyd yw'r ffetws, a hawliau'r fenyw yn unig sydd o bwys. Ceir amryw o safbwyntiau ar yr amrediad rhwng y ddwy ochr hon: mae nifer yn gweld erthyliad yn faes moesol ansicr, ac yn dadlau dros ddewis y lleiaf o ddau ddrwg. Mae eraill o blaid cadw erthyliad yn gyfreithlon ond yn cefnogi cyfyngiadau ar yr arfer, er enghraifft dim ond mewn achosion o [[treisio|drais]] neu [[llosgach|losgach]] neu os bydd yr enedigaeth yn peryglu bywyd y fam.
=== Busnes a'r economi ===
=== Gwleidyddiaeth a'r gyfraith ===
Yn y [[cyfiawnder|system gyfiawnder]], mae dadleuon dros bwrpas ac amcanion [[cosb]] yn rhemp. Ataliaeth yw'r nod yn ôl y llesyddwyr, sy'n defnyddio troseddwyr i rhybuddio eraill rhag troseddu; cymhelliad ychwanegol yw ailsefydlu'r cyn-droseddwr yn y gymuned. O'r safbwynt Kantaidd ad-daledigaeth yw pwrpas y system gosb: dylai'r drwgweithredwr dderbyn cosb haeddiannol am ei drosedd, dedfryd sy'n ei drin fel gweithredydd moesol yn hytrach na modd a gyfiawnheir gan y diben. Dadleua eraill o blaid adfer [[penyd]] i ystyr [[penydeg]], a chael y drwgweithredwr i edifaru am ei drosedd yn ogystal â'i ailsefydlu er lles ei hun a'r gymuned.
== Cyfeiriadau ==
* Ted Honderich (gol.), ''The Oxford Companion to Philosophy'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995)
[[Categori:Moeseg| ]]
|