Afon Teifi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso / cat
llun
Llinell 1:
Mae '''Afon Teifi''' yn afon yng nghanolbarth [[Cymru]] sy'n llifo i [[Bae Ceredigion|Fae Ceredigion]] gerllaw [[Aberteifi]]. Am ran olaf ei chwrs mae'n dynodi'r ffin rhwng [[Ceredigion]] a [[Sir Benfro]].
 
[[Delwedd:LLechryd Bridge.jpg|250px|bawd|Yr hen bont ar afon Teifi, [[Llechryd]]]]Mae Afonafon Teifi yn tarddu yn [[Llyn Teifi]] yn rhan ogleddol Ceredigion, i'r dwyrain o bentref [[Fair-rhos]]. Wedi llifo tua'r gorllewin heibio [[Abaty Ystrad Fflur]] mae'n cyrraedd pentref [[Pontrhydfendigaid]] ac yna yn troi tua'r de-orllewin a llifo trwy Gors Goch Glan Teifi, a adwaenir hefyd fel Cors Caron. Yn fuan wedyn mae'n llifo trwy dref [[Tregaron]] ac yna'n parhau tua'r de-orllewin gan fynd heibio [[Llanddewi Brefi]], lle mae Afonafon Brefi yn ymuno â hi, [[Llanfair Clydogau]], [[Cwmann]], [[Llanbedr Pont Steffan]] a [[Llanybydder]]. Ychydig cyn cyrraedd [[Llandysul]] mae [[Afon Cletwr]] yn ymuno â hi, yna mae'n llifo trwy [[Castell Newydd Emlyn]], [[Cenarth]] ac ger [[Abercuch]] mae'r [[Afon Cuch]] yn ymuno â hi. Wedyn â heibio [[Cilgerran]] a [[Llechryd]] cyn cyrraedd y môr islaw [[Aberteifi]]. Gellir gweld effaith y llanw cyn uched a Llechryd.
 
Un o nodweddion Afonafon Teifi yw'r traddodiad o bysgota, am [[Eog]] yn bennaf, gan ddefnyddio [[cwrwgl]] yn y rhannau o amgylch Cenarth. Mae'r afon hefyd yn cynnig pysgota da gyda'r enwair.
 
==Gweler hefyd==