Castell Cilgerran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae '''Castell Cilgerran''' yn [[Castell|gastell]] [[Normaniaid|Normanaidd]] o'r [[13eg ganrif]] yn [[Cilgerran|Nghilgerran]], [[Sir Benfro]], ger [[Aberteifi]].
 
Saif y castell ar drwyn o graig uwchlaw [[Afon Teifi]]. Credir mai [[castell mwnt a beili]] a godwyd ar y safle yn wreiddiol tua'r flwyddyn [[1100]]. Mae'r castell carreg presennol yn dyddio o ddechrau'r 13eg ganrif. Fe'i lleolwyd yng ngogledd [[cwmwd]] [[Emlyn Is Cuch]], [[cantref]] [[Emlyn (cantref)|Emlyn]].
 
Cysylltir y castell â'r hanes am gipio [[Nest ferch Rhys ap Tewdwr|Nest]] gwraig [[Gerallt Windsor]] gan [[Owain ap Cadwgan]] a phymtheg cydymaith ar ŵyl [[Nadolig]] [[1109]]. Cyfeirir y [[cronicl]]au at "Gastell Cenarth Bychan", a chredir mai Cilgerran a olygir.