Daugleddau (cantref): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
llun
Llinell 4:
Enwir cantref Daugleddau ar ôl [[afon Daugleddau]], am ei fod yn gorwedd rhwng y ddwy afon - [[Afon Cleddy Ddu|Cleddy Ddu]] a [[Afon Cleddy Wen|Chleddu Wen]] - sy'n cyfuno i ffurfio'r afon honno. I'r de ffiniai'r cantref â chantref [[Penfro (cantref)|Penfro]], i'r gorllewin â chantref [[Rhos (Dyfed)|Rhos]] a rhan fechan o gantref [[Pebidiog]], ac i'r gogledd â chwmwd [[Uwch Nyfer]], yng nghantref [[Cemais (cantref yn Nyfed)|Cemais]]. Mae'r rhan fwyaf o'r cantref yn dir isel, amaethyddol, a groesir gan nifer o afonydd a ffrydiau.
 
[[Delwedd:Llawhaden.jpg|200px|bawd|[[Castell Llanhuadain]]]]
Rhywbryd yn yr [[Oesoedd Canol]] rhanwyd y cantref yn ddau [[cwmwd|gwmwd]], sef
*[[Llanhuadain (cwmwd)|Cwmwd Llanhuadain]]
*[[Castell Hu|Cwmwd Castell Hu]]
 
[[Llanhuadain]] oedd canolfan eglwysig Daugleddau, a lleoliad llys [[Llanhuadain (cwmwd)|cwmwd Llanhuadain]] a'i [[Castell Llanhuadain|gastell]].
 
Dechreuodd y cantref fel rhan o deyrnas Dyfed ac ar ôl hynny daeth yn rhan o [[Deheubarth|Ddeheubarth]]. Syrthiodd Daugleddau i ddwylo'r Normaniaid yn gynnar. Meddianwyd rhan sylweddol o'r tir gan drefedigaeth o [[Ffleminiaid]] fel rhan o bolisi coloneiddio Cymru y brenin [[Harri I o Loegr]]. Ar adegau llwyddodd tywysogion Deheubarth i adennill rheolaeth ar rannau ohoni, e.e. rhwng [[1190]] ac [[1193]] pan gipiodd yr [[Arglwydd Rhys]] a'i feibion gastell Llanhuadain.