Pebidiog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
llun
Llinell 1:
Yr oedd [[cantref]] '''Pebidiog''' yn un o saith gantref [[teyrnas Dyfed]], yn ne-orllewin [[Cymru]]. Roedd yn cynnwys safle [[Tyddewi]], canolfan eglwysig bwysicaf y wlad. Heddiw mae tiriogaeth Pebidiog yn gorwedd yng ngogledd-orllewin [[Sir Benfro]] ; dyma'r darn o dir mwyaf gorllewinol yng Nghymru.
 
[[Delwedd:StDavidsCathedral.jpg|170px|bawd|Cadeirlan [[Tyddewi]]]]
Mae gan gantref Pebidiog arfordir hir ar [[Bae Ceredigion|Fae Ceredigion]] a [[Bae Sain Ffraid]] a nodweddir gan glogwynni a baeau bychain niferus. I'r dwyrain roedd [[afon Gwaun]] yn ffurfio ffin naturiol. Ffiniai Pebidiog â thri chantref arall yn Nyfed, sef [[Cemais (cantref yn Nyfed)|Cemais]] i'r dwyrain a [[Daugleddau (cantref)|Daugleddau]] a [[Rhos (Dyfed)|Rhos]] i'r de. Cantref a nodweddir gan dir creigiog a rhosdiroedd ydyw, gyda lleiniau bychain o dir amaethyddol.
 
Rhywbryd yn ystod yr [[Oesoedd Canol]], rhanwyd y cantref yn ddau [[cwmwd|gwmwd]], sef :
*[[Pen Caer (cwmwd)|Cwmwd Pen Caer]]