Moeseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Dirfodaeth: gyda thestun o'r erthygl dirfodaeth
Llinell 33:
 
== Metafoeseg a moeseg ddadansoddol ==
Maes uwchathronyddol a changen o athroniaeth ddadansoddol yw metafoeseg sy'n astudio natur damcaniaethau moesegol a cheisio diffinio moesoldeb. Tynna ar fetaffiseg, [[epistemoleg]] ac [[athroniaeth meddwl]]. Gofynna cwestiynau parthed ystyron y geiriau "da" ac "iawn", diffiniadau hanfodion moeseg megis gwerthoedd, gwrthrychau a phriodweddau, ffynonellau a seiliau gwerthoedd moesol, ac amodau a pherthnasedd egwyddorion moesol. Ymdrecha safbwyntiau metafoesegol i ddatrys y pynciau hyn drwy archwilio [[semanteg]] y disgwrs, ontoleg priodweddau moesol, arwyddocâd y ddadl anthropolegol, ystyriaethau [[Seicoleg|seicolegol]], a sut yr ydym yn caffael [[Gwybodaeth (epistemoleg)|gwybodaeth]] am werthoedd moesol.<ref>{{Eicon en}} Kevin M. DeLapp. "[http://www.iep.utm.edu/metaethi/ Metaethics]" yn yr ''Internet Encyclopedia of Philosophy''. Adalwyd ar 13 Rhagfyr 2016.</ref>
 
Honna'r [[Naturiolaeth|naturiolwyr]] a'r [[Annaturiolaeth|annaturiolwyr]] fel ei gilydd taw natur [[Gwybyddiaeth|wybyddol]] sydd i iaith foesol, ond maent yn anghytuno ar sut y gallem caffael y wybodaeth hon. Gwada'r [[Emosiynaeth|emosiynwyr]] bod mynegiadau moesol yn wybyddol, tra bo'r [[Argymhelliaeth|argymhellwyr]] yn dadlau taw cyfarwyddiadau neu waharddiadau yw barnau moesol, yn hytrach na datganiadau ffeithiol.<ref>{{Dyf Britannica|url=http://www.britannica.com/topic/metaethics|teitl=metaethics|dyddiadcyrchiad=13 Rhagfyr 2016}}</ref>
 
== Moeseg gymhwysol ==