Ynys Llanddwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
+rhyngwici Ffrangeg
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Ynys_Llanddwyn_old_light.pg.jpg|300px|bawd|'''Ynys Llanddwyn''' a'i goleudy yn y gaeaf]]
Mae '''Ynys Llanddwyn''' yn [[ynys]] lanw ger [[Niwbwrch]] ar arfordir de-orllewinol [[Ynys Môn]], yng ngogledd [[Cymru]]. Mae [[sarn]] yn ei chysylltu â'r lan pan fo'r llanw allan. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd [[Menai]], [[cantref]] [[Aberffraw (cantref)|Aberffraw]].
 
Cysylltir yr ynys fechan hon â'r Santes [[Dwynwen]], [[nawddsant]] cariadon Cymru. Gellir cyrraedd gweddillion yr [[eglwys]] a gysegrir i Ddwynwen trwy ddilyn llwybr gwyrdd ar hyd yr ynys o'r sarn. Mae'r adfeilion yn perthyn i'r [[16eg ganrif]] ond credir bod eglwys hynafol ar y safle cyn hynny. Roedd yr eglwys yn rhan o ofalaeth [[Eglwys Gadeiriol Bangor]] a thyfodd yn gefnog gan fod cynifer o bererinion yn ymweld â'r ynys yn [[yr Oesoedd Canol]]. Ger yr eglwys mae Ffynnon Ddwynwen; credid fod symudiadau'r pysgod ynddi yn [[darogan]] y dyfodol i gariadon.