Cantref: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd Gymraeg
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Cantrefi.Medieval.Wales cy.png|bawd|400px]]
Yr oedd '''cantref''' yn ardal ddaearyddol ac uned weinyddol yng [[Cymru|Nghymru]]'r [[Cymru'r Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]], gyda'i chanolfan lys a'i maerdref gysylltiedig. Ystyr yr enw yn llythrennol yw "Cant o drefi" neu "gan trefgordd"; ond nid [[tref]] yn yr ystyr ddiweddar a olygir ond 'trefi' Cymreig canoloesol; unedau tebyg i'r [[plwyf]] eglwysig a sifil neu i [[Cymuned (Cymru)|gymunedau Cymru]] heddiw. Mae'r ffin rhwng rhai cantrefi hefyd yn ffin dafodiaethol, sy'n cadarnhau eu hynafiaeth.
 
==Hanes==
Fel rheol yr oedd cantref yn cynnwys dau neu ragor o [[cwmwd|gymydau]]. Rhennid [[Aberffraw (cantref)|Cantref Aberffraw]] ym Môn yn ddau gwmwd, sef [[Llifon]] a [[Malltraeth]], ond roedd ambell gantref mawr yn cynnwys hanner dwsin neu ragor o gymydau, e.e. [[Gwarthaf|Cantref Gwarthaf]] yn Nyfed gyda wyth cwmwd, sef [[Efelffre]], [[Peuliniog]], [[Talacharn (cwmwd)|Talacharn]], [[Amgoed]], [[Ystlwyf]], [[Penrhyn (cwmwd)|Penrhyn]], [[Derllys]] ac [[Elfed (cwmwd)|Elfed]]. Roedd rhai o'r cantrefi, yn wir, yn deyrnasoedd a lyncwyd gan unedau mwy ac eraill yn unedau gwneud a grewyd yn ddiweddarach. Disodlwyd y rhan fwyaf o gantrefi gan y cwmwd, ond goroesodd llawer hyd at ddiwedd yr [[Oesoedd Canol]].
 
Credid ar un adeg bod y cymydau hyn yn ddatblygiad diweddarach na'r cantrefi ond y tuedd erbyn hyn ydy ystyried mai'r cymydau yw'r unedau hynaf yn hytrach na'r cantrefi; yn sicr y cymydau oedd yr unedau gweinyddol sylfaenol yn yr Oesoedd Canol. Er hynny, mae rhai o'r cantrefi yn cyfateb i diriogaethau rhai o [[Teyrnasoedd Cymru|deyrnasoedd cynnar Cymru]], e.e. [[Rhos]] yng ngogledd Cymru, neu yn coffau enwau llwythau Celtaidd, e.e. [[Tegeingl]] (y ''[[Deceangli]]'').
 
Parhaodd nifer o'r hen gantrefi ar ôl cwymp Cymru annibynnol yn 1282-3. Dan y drefn Seisnig roeddent yn ''hundreds'' ('hwndrwd' ar lafar). Ni ddiflanodd yr ''hundreds'' hynny fel unedau lleol - yn enwedig ar gyfer ystadegau - tan y [[19eg ganrif]].
 
==Gweler hefyd==