Phrygia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Map o ardal Phrygia. Delwedd:MidasSehri.TombDetail.jpg|bawd|Arysgrif Phrygeg ar Fedrodd Midas yn...'
 
B dol
Llinell 5:
Ymsefydlodd y Phrygiaid yng ngogledd-orllewin Anatolia yn yr ail fileniwm CC. Daethant o'r [[Balcanau]], ac mae'n bosib yr oeddynt yn hanu o'r [[Thracia]]id. Yn sgil cwymp teyrnas Heth, ymfudodd y Phrygiaid i ucheldiroedd y canolbarth gan sefydlu'r brifddinas [[Gordium]] a'r ganolfan grefyddol yn [[Dinas Midas|Ninas Midas]]. Rhwng y 12fed a'r 9fed ganrif CC, Phrygia oedd ardal orllewinol conffederasiwn y "Mushki", yn ôl croniclau'r [[Asyria]]id. Llwyddodd y gwareiddiad hwn i reoli holl Anatolia drwy fabwysiadau arferion yr Hethiaid cynt ac adeiladu ffyrdd ar draws yr orynys. Tua'r flwyddyn 730 CC, rhannwyd dwyrain y conffederasiwn gan Asyria ac Urartu a symudodd canolfan grym i ardal Phrygia ei hun dan deyrnasiad y Brenin Midas. Cwympodd teyrnas Midas yn sgil goresgyniadau'r [[Cimeria]]id yn y cyfnod 695–585 CC. Daeth gorllewin Anatolia dan dra-arglwyddiaeth y Lydiaid, a pharhaodd Phrygia yn enw daearyddol yn unig. Yn hwyrach daeth yr ardal dan reolaeth [[Ymerodraeth Persia|Persia]], y teyrnasoedd [[oes Helenistaidd|Helenistiaid]], y [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]], a'r [[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Bysantiaid]]. Cymhathodd y Phrygiaid yn llwyr erbyn dechrau'r cyfnod canoloesol, a diflanodd yr enw Phrygia wedi concwest y [[Tyrciaid]].
 
Ychydig a wyddom am gymdeithas y Phrygiaid. [[Cwlt (addoliad)|Cwlt]] y famdduwies Cybele oedd y grefydd fwyaf. Mae'n debyg taw ffurf ar [[ffiwdaliaeth]] oedd trefn y gymdeithas, gydag phendefigaeth o farchogion llythrennog yn rheoli'r bobloedd frodorol o'u canolfannau yn Gordium a Dinas Midas. Rheolid rhai o'r tiroedd gan archoffeiriaid y cysegrfeydd mawr megis [[Pessinus]]. Yn y canol oedd y crefftwyr a'r masnachwyr, a rhai ohonynt siŵr o fod yn dramorwyr: [[Groeg yr henfyd|Groegiaid]], [[Ffenicia]]id, [[Syria]]id, ac [[Urataea]]id. Ffermio defaid oedd un o'r prif ddiwydiannau, a roedd gwlân Phrygia yn werthfawr gan fasnachwyr Groegaidd ym [[Miletus]] a [[Pergamum]]. Roedd y Phrygiaid yn weithwyr metel ac yn gerfwyr pren o fri, ac hefyd yn y [[brodwaith|brodwyr]] cyntaf ac yn enwog am eu carpedi. Roeddynt yn siarad [[Phrygeg]], iaith Indo-Ewropeaidd sydd o bosib yn perthyn yn agos i'r [[Groeg (iaith)|Roeg]].
 
Goroesoedd enwau'r brenhinoedd Phrygiaidd mewn [[mytholeg Roeg|straeon arwrol y Groegiaid]]: Gordias a'r [[Cwlwm Gordiaidd]], y [[Midas]] chwedlonol a drodd popeth yn aur, a [[Mygdon]] gelyn yr [[Amasoniaid]]. Sonir amdanynt yn gynghreiriaid y [[Caerdroea]]id yn yr [[Iliad]].