Moeseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 30:
 
=== Dirfodaeth ===
Yn yr 20fed ganrif, ceisiodd athronwyr ddeall [[realiti]] drwy [[ffenomenoleg]] a'r [[isymwybodymwybyddiaeth|ymwybod]]. Datblygodd y Ffrancod [[Jean-Paul Sartre|Sartre]] a [[Simone de Beauvoir|de Beauvoir]] athroniaeth [[dirfodaeth]], gan wrthod [[metaffiseg]] a chanolbwyntio ar fodolaeth person yn y byd sydd ohoni. Yn ôl y ddamcaniaeth hon, mae'r unigolyn yn gyfrifol am effaith ei weithgareddau ar bobl eraill er mai dim ond ei fodolaeth ef ei hun sy'n "real" ac ef ei hun yw unig farnwr ei weithredau ei hun. Yn y bôn, ewyllys yr unigolyn ac nid ei reswm sy'n bwysig pan fo rhaid wynebu dewis, ac nid yw'r unigolyn yn bodoli ond i'w ewyllysio ei hun i weithredu.
 
== Metafoeseg a moeseg ddadansoddol ==