De-orllewin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
(Nid ar gyfer cynllunio economeg yn unig yw'r rhanbarthau; gweler erthygl Saesneg)
Llinell 16:
}}
 
Un o naw [[rhanbarthau Lloegr|rhanbarth cynllunio economegswyddogol]] [[Lloegr]] yw '''De-orllewin Lloegr'''. Y rhanbarth mwyaf yw ef yn nhermau arwynebedd, ac mae'n ymestyn o [[Swydd Gaerloyw]] a [[Wiltshire]] i [[Cernyw|Gernyw]] ac [[Ynysoedd Syllan]]. Dangosir maint y rhanbarth gan y ffaith bod rhan ogleddol Swydd Gaerloyw, ger Chipping Campden, mor agos at ffin [[yr Alban]] ag y mae at flaen Cernyw.
 
Yn draddodiadol, mae De-orllewin Lloegr yn adnabyddus am gynhyrchu [[caws Cheddar]], a darddodd ym mhentref [[Cheddar]], am de hufen [[Dyfnaint]] ac am [[seidr]] [[Gwlad yr Haf]]. Bellach, mae'n debyg bod y rhanbarth yr un mor adnabyddus o achos [[Prosiect Eden]], [[gŵyl Glastonbury]], tai bwyta [[bwyd môr]] Cernyw, a thraethau [[syrffio]]. Lleolir dau [[Parciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig|barc cenedlaethol]] a phedwar [[Safle Treftadaeth y Byd]] y tu mewn i ffiniau'r rhanbarth.