Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwasg argraffu"

Ychwanegwyd 676 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
William Davies (offeiriad)
(y wasg yng Nghymru)
(William Davies (offeiriad))
[[Delwedd:Printer in 1568-ce.png|bawd|DarluniadYsgythriad o'r wasg argraffu gan Jost Amman (1568). Mae'r person ar y chwith yn tynnu papur sydd newydd ei argraffu a'r un ar y dde yn rhoi inc ar y blociau o deip.]]
Dyfais sy'n gwasgu [[inc]] ar bapur neu wyneb rall i'w [[argraffu]], yw '''gwasg argraffu''' (neu'n syml, '''y wasg'''). Roedd datblygiad ac ymlediad y wasg yn un o ddigwyddiadau mwyaf dylanwadol yr ail fileniwm gan iddi greu chwyldro deallusol a chymdeithasol, nodi cychwyn [[y cyfryngau torfol]], a hebrwng yr oes fodern i mewn. Yr Almaenwr [[Johannes Gutenberg]] a ddyfeisiodd y wasg argraffu tua'r flwyddyn 1440, pan greeodd [[gwasg sgriwio|wasg sgriwio]].<ref>Kapr, Albert. ''Johannes Gutenberg: The Man and His Invention'' (Aldershot, Scolar Press, 1996).</ref> Defnyddir gwasg argraffu i gyhoeddi llyfrau a phapurau newydd. Dros gyfnod o amser trodd y gair 'gwasg' i olygu nid yn unig y peiriant metal a ddefnyddiwyd, ond hefyd y cwmni a'i defnyddiai; daw'r gair o'r weithred o wasgu'r teip yn erbyn arwyneb y papur.
 
Cyn [[14c]] y dull arferol o argraffu gwybodaeth oedd drwy ddefnyddio blociau o bren, neu ysgythru defnydd fel lledr. Pan ddyfeisiodd Gutenberg fold i greu teip symudol, daeth yn broses yn llawer cynt, ac felly'n fasnachol bosobl.
 
==Gweisg yng Nghymru==
 
Pan godwyd y gwaharddiadau yn 1695, un o'r gweisg gyfreithlon, cyntaf i'w sefydlu yng Nghymru oedd gwasg [[Isaac Carter]] yn [[Trerhedyn|Nhrerhedyn]], [[Llandyfrïog]], yn 1718, a daeth yn ganolfan i gyhoeddi llyfrau yng Nghymru am ddegawdau. Tair mlynedd wedyn, yn 1721, sefydlwyd gwasg yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] gan Nicholas Thomas, a daeth y dref yn bencadlys cyhoeddi Cymraeg am weddill y [[18c]].<ref>[[Gwyddoniadur Cymru]]; [[Gwasg y Brifysgol]]; 2008.</ref>
 
==Gweler hefyd==
*[[William Davies (offeiriad)]], cyhoeddwr ''[[Y Drych Cristianogawl]]'', y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru.
 
== Cyfeiriadau ==