Aberfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Aber-fan
Mynwent Aberfan.jpg
Llinell 24:
{{Prif|Trychineb Aberfan}}
Ar ddydd Gwener yr [[21 Hydref|21ain o Hydref]] [[1966]], am 9.15 y bore, llithrodd tomen [[glo|lo]] o weithfa rhif 7 i lawr llethrau'r bryniau uwchlaw'r pentref gan gladdu Ysgol Gynradd Pantglas ac ugain o dai a ffermdy. Lladdwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant, gyda'r mwyafrif ohonynt rhwng 7 a 10 oed. Lladdwyd pump athro yn y drychineb. Dim ond cnewllyn o ddisgyblion a oroesodd y digwyddiad.
[[Delwedd:IMG1225Mynwent Aberfan.jpg|bawd|chwith|Beddau'r plant a'r oedolion a laddwyd]]
 
Roedd y domen lo yn cynnwys creigiau o bwll glo lleol. Roedd y disgyblion newydd adael y gwasanaeth boreuol yn y neuadd, lle buont yn canu "All Things Bright and Beautiful", am eu hystafelloedd dosbarth, pan glywsant swn mawr y tu allan. Roedd yr ystafelloedd dosbarth ar ochr y tirlithriad.