Gaius Suetonius Paulinus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Yn [[59]] penodwyd ef yn [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|llywodraethwr Prydain]] yn lle [[Quintus Veranius]], oedd wedi marw tra'n llywodraethwr. Bu'n ymladd am ddwy flynedd yn erbyn llwythi [[Cymru]] ac yn [[61]] ymosododd ar Ynys Môn. Yr oedd yr ynys yn amlwg o bwysigrwydd arbennig, nid yn unig yn noddfa i ffoaduriaid oddi wrth y Rhufeiniaid ond yn gadarnle y [[Derwydd|Derwyddon]]. Croesodd y Rhufeiniaid [[Afon Menai]] mewn cychod, ond er bod cryn dipyn o drafod wedi bod nid oes sicrwydd ymhle y croesodd. Mae'r hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]] yn rhoi disgrifiad byw o'r olygfa ar lannau Môn, gyda'r Derwyddon a merched Môn yn gymysg a'r rhyfelwyr. Cipiodd Paulinus yr ynys a thorri coed y llennyrch sanctaidd.
 
Tra'r oedd Paulinus yng Nghymru, manteisiodd llwyth yr [[Iceni]] ar y cyfle i wrthryfela dan eu brenhines [[Buddug]]. Cipiasant y ''[[colonia]]'' Rhufeinig [[Camulodunum]] ([[Colchester]]) a gorchfygasant leng dan arweiniad [[Petillius Cerialis]] legion routed. Dychwelodd Paulinus i Londinium ([[Llundain]]). Yr oedd yr Iceni a'u cyngheiriaid ar eu ffordd tua'r ddinas, ac nid oedd byddin Paulinus yn ddigon mawr i'w hamddiffyn, felly gorchymynodd i bawb a fedrai ei gadael. Distrwyiwyd y ddinas a dinas Verulamium ([[St Albans]]) gan fyddin Buddug.
 
Ffurfiodd Paulinus fyddin yn cynnwys y lleng [[Legio XIV Gemina|XIV ''Gemina'']], rhan o'r ''[[Legio XX Valeria Victrix|XX Valeria Victrix]]'' a milwyr cynorthwyol. Yr oedd wedi gyrru neges i [[Legio II Augusta|II ''Augusta'']], oedd yn Isca Dumnoniorum ([[Caerwysg]]) ar y pryd, ond gwrthododd ei phennaeth ymateb i'r alwad. Yr oedd gan Paulinus fyddin o tua 10,000, tra roedd gan Buddug 100,000 yn ôl Tacitus a 230,000 yn ôl [[Dio Cassius]]). Bu brwydr yn rhywle ar hyd ffordd Rufeinig [[Stryd Watling]]. Enillodd Paulinus y fuddugoliaeth, a bu lladdfa enfawr ymysg y Brythoniaid. Lladdodd Buddug ei hun.