Concwest yr Anialwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Dechreuodd yr ymgyrchoedd tua diwedd y [[18fed ganrif]] gydag ymosodiadau ar diriogaethau y Ranquel. Rhwng [[1820]] a [[1824]], bu tair ymgyrch yn nhalaith Buenos Aires dan y cadfridog [[Martín Rodríguez]]. Rhwng [[1826]] a [[1827]] bu tair ymgyrch arall dan [[Federico Rauch]], ond yn 1829 lladdwyd ef gan y ''cacique'' [[Arbolito]] ym mrwydr Vizcacheras. Yn raddol, gwthiwyd y ffin ymhellach i'r de.
 
Yn [[1877]], enwyd [[Julio Argentino Roca]] yn Weinidog dros Ryfel, a daeth i'r casgliad mai'r unig ddull o ddeilio a'r brodorion oedd eu lladd neu eu gyrru o'u tiroedd. Pasiwyd deddf i ymestyn y ffin hyd afonydd Negro, Neuquén ac Agrio. Dechreuodd y gyfres gyntaf o ymgyrchoedd yn niwedd [[1878]]. Yn Ebrill [[1879]] dechreuodd yr ail gyfres o ymgyrchoedd, gyda 6,000 o filwyr, gan gyrraedd [[Choele Choel]] ac yna ymlaen at yr Afon Negro a'r Afon Neuquén.
 
Pan ddaeth Roca yn Arlywydd, aeth yr ymgyrchoedd yn eu blaenau dan y cadfridog Villegas. Cyrhaeddodd 100 o filwyr dan Lino Oris de Roa ran isaf [[Afon Camwy|Dyffryn Camwy]] ac wedi brwydr ar [[18 Hydref]] [[1884]], ildiodd y ddau ''cacique'' olaf, Inacayal a [[Foyel]] i fyddin dan Miguel Vidal. Cymerwyd llawer o'r brododrion yn garcharorion, a'u cadw mewn gwersylloedd. Dywedir i dros fil o'r brodorion gael eu lladd ac i 10,539 o wragedd a phlant a 2,320 o ryfelwyr gael eu cymeryd yn garcharorion. Gyrrwyd y gweddill i rannau lleiaf ffrwythlon