Ysgolaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2:
Systemau meddwl y prifysgolion [[Cristnogaeth|Cristnogol]] yn [[yr Oesoedd Canol]] yw '''ysgolaeth''' neu '''sgolastigiaeth'''. Ymdrechodd i gysylltu'r ffydd â [[rheswm (athroniaeth)|rheswm]] drwy gyfuno [[diwinyddiaeth]] Gatholig ac [[athroniaeth glasurol]] yr hen Roegwyr a'r Rhufeiniaid, a phob amser yn ufuddhau i awdurdod [[y Beibl]]. Ceir nifer o ffurfiau ar ysgolaeth, ond fel rheol roedd yn seiliedig ar resymeg [[Aristotlys]] ac ysgrifau'r [[Tadau Cristnogol]] ac yn pwysleisio traddodiad a [[dogma]]'r [[Eglwys Gatholig]].
[[John Scotus Erigena]] oedd y meddyliwr cyntaf i ymdrin ag ysgolaeth, a hynny yn y 9fed ganrif. Ymhlith yr ysgolwyr eraill mae [[Anselm, Archesgob Caergaint]], [[Albertus Magnus]], [[Tomos o Acwin]], [[William o Ockham]], [[
Collodd ysgolaeth ei bri yn oes [[y Dadeni]], a hyd y 19eg ganrif fe'i welir yn symbol o feddwl cyntefig a dirmygadwy yr Oesoedd Canol. Trodd "sgolastig" yn derm difrïol am ymlyniad culfarn wrth athrawiaethau traddodiadol.<ref>{{dyf GPC |gair=sgolasticiaeth |dyddiadcyrchiad=27 Rhagfyr 2016 }}</ref> Bellach, ystyrir ysgolaeth yn gyfnod yn hanes athroniaeth sy'n haeddu ei barch ac sy'n llawn meddylwyr penigamp.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/topic/Scholasticism |teitl=Scholasticism |dyddiadcyrchiad=27 Rhagfyr 2016 }}</ref>
|