Diddymu'r mynachlogydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 14eg ganrif14g using AWB
Llinell 2:
Digwyddodd '''diddymu'r mynachlogydd''' yng [[Cymru|Nghymru]] a [[Lloegr]] yn nheyrnasiad y brenin [[Harri VIII o Loegr]].
 
Roedd y [[mynachlog]]ydd [[Oesoedd Canol|canoloesol]] yn sefydliadau pwysig iawn yn hanes a diwylliant y ddwy wlad ond erbyn diwedd yr Oesoedd Canol roeddent wedi dirywio'n sylweddol. Ar un adeg roedd y mynachlogydd Cymreig - yn arbennig y tai [[Urdd y Sistersiaid|Sistersaidd]] - yn ganolfannau [[dysg]] a [[crefydd|chrefydd]] lle ceid nawdd a chroeso i'r beirdd. Dioddefodd y mynachlogydd o effeithiau economaidd a chymdeithasol y [[Pla Du]] yn y [[14eg ganrif14g]] a'r rhyfeloedd niferus yn y [[15fed ganrif|ganrif olynol]]. Roedd yr [[Eglwys Gatholig|Eglwys]] ei hun wedi troi'n fydol ac roedd cyflwr y mynachlogydd yn adlewyrchu hynny. Roedd llawer ohonynt wedi gwerthu eu tiroedd i foneddigion lleol ac roedd nifer y [[mynach]]od yn isel.
 
Penderfynodd Harri VIII fod rhaid cael gwared â'r tai crefyddol fel rhan o'i ymgais i sefydlu ei hun fel pennaeth [[Eglwys Loegr]]. Anfonodd gomisiynwyr allan i archwilio cyflwr y mynachlogydd a rhoddwyd eu hadroddiad ar werth y tai, y ''Valor Ecclesiasticus'', iddo; ymhlith y goruchwylwyr yng Nghymru oedd [[Elis Prys (Y Doctor Coch)]] o Blas Iolyn. O ganlyniad caewyd 48 o dai yng Nghymru (bron y cyfan) yn [[1536]] ac erbyn diwedd y ddegawd nid oedd yr un mynachlog ar ôl.