Cambria, Wisconsin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Pentref yn [[Swydd Columbia]], talaith [[Wisconsin]], [[Unol Daleithiau America]] yw '''Cambria'''.
 
Yn wreiddiol galwyd y pentref yn Florence neu Langdon's Mills, wedyn BrevilleBellville. Daeth yr enw '''Cambria''' wedi i grŵp ymfudo o [[Cymru|Gymru]], yn cynnwys teuluoedd o ardal [[Dolwyddelan]] ym [[1845]]. Roedd y criw yma wedi dechrau ar eu siwrnai yn cerdded o Ddolwyddelan i [[Trefriw|Drefriw]] gyda'r holl gymuned yn eu hebrwng, ac o Drefriw ar long i [[Lerpwl]] cyn hwylio ar draws [[Môr Iwerydd]] i [[Efrog Newydd]]. Bu farw rhai ar y daith.
 
Roedd [[John Glyn Davies|J. Glyn Davies]] yn berthynas i rai o'r ymfudwyr, yn ddisgynydd o gangen o'r teulu a arhosodd yng Nghymru. Mewn erthygl a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth yntau, mae'n adrodd hanes ymweliad ganddo pan yn ddyn ifanc â Chambria ym [[1898]]. Mae'n cofnodi sut roedd yr [[Cymraeg|iaith Gymraeg]] yn fyw iawn yn y pentref bryd hynny, a'r brodorion yn barod i gyfarch un arall o'r un llwyth, ond bod yr arferion yn dechrau pallu wrth bod y gymdeithas yn cymysgu.