Santes Dwynwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gh |
B canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: (2) using AWB |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Llyfr Santes Dwynwen.jpg|
Nawddsantes cariadon [[Cymru]] yw '''Dwynwen''' a oedd yn un o'r harddaf o 24 merch [[Brychan|Brychan Brycheiniog]], yn y 5ed ganrif.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/cwestiynau/santesdwynwen/ Gwefan Amgueddfa Cymru]; adalwyd 17 Ionawr 2013</ref> Dethlir diwrnod Santes Dwynwen ar [[25 Ionawr]] trwy i gariadon anfon cardiau i'w gilydd.
==Hanes a thraddodiad==
Cysylltir Dwynwen ag [[Ynys Môn]] a rhoddodd ei henw i eglwys ar [[Ynys Llanddwyn]] (ger [[Rhosyr]], [[Niwbwrch]]) ac yn hen blwyf [[Porthddwyn]]. Ceir eglwysi cysegredig iddi ym [[Morgannwg]] yn ogystal â St ''Adhwynn'', Advent, Cernyw.
[[
Yn ôl y chwedl, roedd Dwynwen mewn cariad â [[Maelon|Maelon Dafodrill]] ond roedd ei thad am iddi briodi tywysog arall. Yn ei gynddaredd, treisiodd Maelon hi. Ffôdd i'r goedwig lle y gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o'i chariad at Maelon; wedi iddi syrthio i gysgu, ymddangosodd angel yn cario sudd melys a fyddai'n dileu yr holl atgofion oedd ganddi o Faelon ac i'w droi yn ddarn o rew. Yna, rhoddodd yr angel dri dymuniad iddi. Yn gyntaf, gofynnodd am i Maelon gael ei ddadmer. Yn ail gofynnodd i Dduw ateb gweddîau y gwir gariadon a oedd yn gofyn iddi am atebion ac yn drydydd gofynnodd am beidio â phriodi byth. Ar ôl i'w dymuniadau cael eu gwireddu, penderfynnodd Dwynwen wasanaethu ac ymdynghedu i Dduw weddill ei hoes. Aeth i fyw ar Ynys Llanddwyn ger traeth Niwbwch tan ei marwolaeth yn OC 460.
[[
Yn ôl y tair gweddi Lladin a ychwanegwyd at Lyfr Offeren Bangor yn 1494, cerddodd Dwynwen yr holl ffordd dros fôr [[Iwerydd]] rhag llid [[Maelgwn Gwynedd]]. Yn llawysgrifau [[Iolo Morganwg]] ceir fersiwn wahanol, sef y fersiwn uchod. Ym marddoniaeth [[Dafydd Trefor]] (c.1460 - 1528) disgrifir cleifion yn cael eu hiacháu gerllaw ei ffynnon a'i chapel.
|