Priordy Penmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Dolenni allanol: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 13eg ganrif13g, 12fed ganrif12g, 6ed ganrif6g using AWB
Llinell 2:
[[Delwedd:Croes Penmon.jpg|bawd|Croes Geltaidd Penmon: copi yn yr Amgueddfa Genedlaethol.]]
 
[[Priordy]] [[Awstiniaid|Awstinaidd]] yn dyddio o ddechrau'r [[13eg ganrif13g]] yw '''Priordy Penmon''', ger [[Llangoed]], [[Ynys Môn]] ond mae ar safle llawer hŷn na hyn; {{gbmapping|SH630807}}.
 
Gerllaw'r priordy, ceir Ffynnon Seiriol ac olion tŷ bychan crwn a elwir yn Cell y Meudwy. Cysylltir y rhain a Sant [[Seiriol]], o'r [[6ed ganrif6g]]. Ceir cofnod o [[Abaty Dinas Basing]] sy'n awgrymu bod [[Maelgwn Gwynedd]] wedi noddi mynachlog yma yn y 540au. Yn sicr, roedd [[clas]] yma o gyfnod cynnar, a chofnodir iddo gael ei ddinistrio gan y [[Llychlynwyr]] yn [[917]].
 
Parhaodd y fynachlog i gael nawdd tywysogion [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], ac adeiladwyd rhan o'r eglwys bresennol gyda chymorth [[Owain Gwynedd]] tua chanol y [[12fed ganrif12g]]. Yn gynnar yn y 13eg ganrif, anogodd [[Llywelyn Fawr]] y clas i ddod dan reolaeth yr urdd Awstinaidd. Dyddia rhan o'r eglwys a'r adeilad tri llawr oedd yn cynnwys y ffreutur a'r man cysgu o'r cyfnod hwn. Rhoddodd Llywelyn lawer o dir a breintiau i'r priordy. Roedd [[Ynys Seiriol]] yn eiddo i'r priordy.
 
Diddymwyd y priordy yn [[1537]], ac fe'i rhoddwyd i [[Bulkeley (teulu)|deulu Bulkeley]], [[Baron Hill]], [[Biwmares]]. Mae eglwys y priordy, sydd wedi ei chysegru i Sant Seiriol, yn parhau i fod yn eglwys y plwyf.