Chwarel Dinorwig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 18fed ganrif18g using AWB
Llinell 1:
[[Image:Chwareli.jpg|thumbbawd|250px|Hollti llechi yn Chwarel Dinorwig tua 1910.]]
 
Roedd '''Chwarel Dinorwig''' yn un o’r ddwy [[chwarel]] fwyaf yng [[Cymru|Nghymru]] gyda [[Chwarel y Penrhyn]]. Ar un adeg y ddwy yma oedd y chwareli mwyaf yn y byd.
 
Mae’r chwarel ar lechweddau [[Elidir Fawr]], yr ochr arall i [[Llyn Padarn|Lyn Padarn]]
i bentref [[Llanberis]]. Fel gyda’r ardaloedd llechi eraill, gweithid y llechi gan bartneriaethau bychain o chwarelwyr yn y [[18fed ganrif18g]]. Yn 1787 ffurfiwyd un bartneriaeth fawr i weithio’r chwarel, ac yn 1809 cymerodd y meistr tir, [[Thomas Assheton Smith]] o’r [[Faenol]], reolaeth y chwarel i’w ddwylo ei hun.
 
Yn [[1824]] agorwyd [[Rheilffordd Padarn]] fel tramffordd, ac yn [[1843]] trowyd hi yn reilffordd. Roedd yn cludo llechi o’r Gilfach Ddu ger Llanberis i’r [[Y Felinheli|Felineli]], lle adeiladwyd porthladd dan yr enw ‘’Port Dinorwic’’ i allforio’r llechi. Rheilffordd Padarn oedd y gyntaf o reilffyrdd y chwareli i ddefnyddio trenau ager, yn 1843.
Llinell 10:
Amcangyfrifodd y ''Mining Journal'' yn 1859 fod Chwarel Dinorwig yn gwneud elw o £70,000 y flwyddyn. Erbyn diwedd y 1860au roedd yn cynhyrchu 80,000 tunnell o lechi y flwyddyn.
 
[[Image:AngleseyBarracks.JPG|thumbbawd|240px|leftchwith|Barics Mon yn Chwarel Dinorwig. Byddai gweithwyr o [[Ynys Mon]] yn aros yma yn ystod yr wythnos cyn dychwelyd ar y fferi ar brynhawn dydd Sadwrn.]]
 
Bu anghydfod diwydiannol yn [[1874]], yn dilyn ffurfio [[Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru]]. Cafodd tua 2,200 o chwarelwyr eu cloi allan ym mis Mehefin, ond ar ôl pum wythnos cytunodd y rheolwyr i dderbyn bodolaeth yr undeb. Ym mis Hydref [[1885]] bu anghydfod diwydiannol eto yn y chwarel oherwydd fod gwyliau’r chwarelwyr yn cael eu lleihau, ac o ganlyniad clowyd y gweithwyr allan. Fel y chwareli eraill, effeithiwyd ar Dinorwig gan y ddau Ryfel Byd a’r [[Dirwasgiad Mawr]], ac yn [[1969]] caeodd y chwarel, gyda dros 300 o chwarelwyr yn colli eu swyddi.