Chwarel y Penrhyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 18fed ganrif18g, 15fed ganrif15g using AWB
Llinell 2:
[[Delwedd:A view of the Penrhyn quarry from Braich Melyn mountain NLW3361187.jpg|250px|bawd|Chwarel y Penrhyn o Fraich Melyn; ffotograff gan [[John Thomas (ffotograffydd)|John thomas]], 1885.]]
 
'''Chwarel y Penrhyn''' gerllaw [[Bethesda]] , [[Gwynedd]], oedd y [[chwarel]] lechi fwyaf yn y byd yn ail hanner y [[19eg ganrif19g]]. Mae'r chwarel yn parhau i gynhyrchu llechi, ond ar raddfa lawer llai bellach. Saif ar lechweddau gogleddol [[Carnedd y Filiast (Glyderau)|Carnedd y Filiast]].
 
==Blynyddoedd Cynnar==
 
Ceir y cofnod cyntaf o weithio llechi yn yr ardal yn 1413, pan dalwyd 10 ceiniog yr un i rai o denantiaid Gwilym ap Gruffudd am gynhyrchu 5,000 o lechi. Mae cerdd gan [[Guto'r Glyn]] yn y [[15fed ganrif15g]] yn gofyn i Ddeon [[Bangor]] yrru llwyth o lechi iddo o Aberogwen, ger Bangor, i [[Rhuddlan|Ruddlan]] i’w rhoi ar do tŷ yn [[Henllan, Sir Ddinbych|Henllan]] ger [[Dinbych]].
 
Cofnodir allforio llechi o Ystad y Penrhyn o 1713, pan yrrwyd 14 llwyth llong, 415,000 o lechi i gyd, i [[Dulyn|Ddulyn]]. Yr adeg yma roedd y llechi yn cael eu cario i’r porthladd ar gefnau ceffylau, ac yn nes ymlaen ar droliau. Hyd diwedd y [[18fed ganrif18g]] roedd chwareli bychain yn cael eu gweithio gan bartneriaethau o bobl leol, oedd yn talu rhent i’r tirfeddiannwr. Mae llythyr gan asiant Ystad y Penrhyn, John Paynter, yn [[1738]] yn cwyno fod cystadleuaeth oddi wrth lechi [[Chwarel y Cilgwyn]] yn effeithio ar werthiant llechi o Ystad y Penrhyn. Nid oedd chwarelwyr y Cilgwyn yn gorfod talu rhent i feistr tir, felly gallent werthu’r cynnyrch yn rhatach. Rhwng 1730 a 1740 dechreuodd y Penrhyn gynhyrchu llechi mwy, a rhoddasant enwau iddynt a ddaeth yn gyffredin trwy’r diwydiant, o’r ''Duchesses'', 24 modfedd wrth 12 modfedd, trwy’r ''Countesses'', ''Ladies'' a ''Doubles'' i’r lleiaf, y ''Singles''.
 
==Datblygiad Chwarel y Penrhyn==