Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Castell Dinefwr"

Lleihawyd o 9 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 15fed ganrif15g using AWB
B (clean up, replaced: Graddfa I → Gradd I, Image: → Delwedd:, |thumb| → |bawd| using AWB)
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 15fed ganrif15g using AWB)
Ar farwolaeth Rhys ap Gruffudd daeth y castell yn eiddo i'w fab, [[Rhys Gryg]], a chredir fod rhannau cynharaf y castell presennol yn dyddio i'w gyfnod ef. Erbyn hyn yr oedd [[Llywelyn Fawr]] o [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] yn ymestyn ei awdurdod i'r ardaloedd hyn, a chan bod Rhys yn rhy wan i'w wrthsefyll, dymchwelodd y castell. Ail-adeiladodd Llywelyn y castell a chadwodd ef yn ei feddiant hyd ei farwolaeth yn [[1240]]. Yn 1255 rhoddodd [[Llywelyn ap Gruffudd]] gastell Dinefwr i [[Rhys Fychan]], yna'n ddiweddarach rhoddodd ef i [[Maredudd ap Rhys]] cyn ei ddychwelyd i Rhys Fychan. Digiodd hyn Maredudd, a daeth yn gefnogwr [[Edward I, brenin Lloegr]], gan helpu Edward i gipio Dinefwr yn 1277. Mae'n ymddangos fod Maredudd wedi cael addewid y byddai'n cael cadw Dinefwr, ond torrodd Edward ei addewid. ac yn 1291 gorchymynodd ddienyddio Maredudd.
 
Bu'r castell yn awr yn nwylo'r Saeson, er fod cofnod iddo gael ei losgi yn ystod gwrthryfel [[Llywelyn Bren]] yn [[1316]]. Yn 1317 rhoddwyd ef i [[Hugh Despenser]], ffefryn y brenin. Gwarchaewyd ar y castell gan fyddin [[Owain Glyndŵr]] yn [[1403]], ond heb ei gipio. Tua diwedd y [[15fed ganrif15g]] perchennog y castell oedd Syr [[Rhys ap Thomas]], a ail-adeiladodd rannau helaeth ohono. Yn 1531 dienyddiwyd ŵyr Rhys am deyrnfradwriaeth a chymerodd y goron feddiant ar y castell. Llwyddodd y teulu i'w gael yn ôl yn ddiweddarach, ond yn 1600 adeiladasant dŷ gerllaw ac ni bu defnydd pellach ar y castell.
 
Mae'r castell dan ofal [[Cadw]] ond mae tu mewn i [[Parc Dinefwr|Barc Dinefwr]],sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
450,625

golygiad