Bartholomew Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Dadwneud y golygiad 1773233 gan 2A02:C7D:4478:D300:7407:388:72AB:FF9F (Sgwrs | [[Special:Contributions/2A02:C7D:4478:D300:7407:388:72AB:...
B canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Bartholomew Roberts.png|thumbbawd|210px]] Yr oedd '''Bartholomew Roberts''' ([[17 Mai]] [[1682]] - [[10 Chwefror]], [[1722]]), o [[Casnewydd Bach|Gasnewydd Bach]], [[Sir Benfro]] yn [[môr-leidr|fôr-leidr]] llwyddiannus dros ben yn y [[Caribî]] a [[Gorllewin Affrica]] rhwng 1719 a 1722. Ei enw enedigol oedd '''John Roberts''' ond mae'n fwy adnabyddus dan yr enw '''Barti Ddu''' ([[Saesneg]]: "Black Bart") er na ddefnyddiwyd yr enw hwnnw yn ystod ei fywyd <ref>Sanders, p. 18. Bathwyd y term "Barti Ddu" fel enw cerdd gan y bardd Cymreig [[Isaac Daniel Hooson|I. D. Hooson]], a ddewisodd yr enw yn ôl y sôn am fod Johnson wedi disgrifio pryd a gwedd tywyll Roberts.</ref>. Ef oedd y môr-leidr mwyaf llwyddiannus yn ôl y nifer o longau a gipiodd<ref>Rediker p. 33.</ref> sef 470 yn ystod ei fywyd.<ref>Breverton p. 172</ref>
 
==Ei fywyd cynnar==
Llinell 8:
 
Cyn hir yr oedd llawer o siarad am orchestion Barti Ddu a'i long ''Royal Fortune''. Hwyliodd i mewn i lynges o 42 o longau [[Portiwgal]], daliodd garcharor i'w holi pa un o'r llongau oedd y gyfoethocaf ac yna cipiodd y llong honno a'i hwylio ymaith. Dro arall daeth i borthladd yn [[Newfoundland (ynys)|Newfoundland]] lle roedd 22 o longau, a ffodd criw pob un ohonynt mewn ofn. Dywedir ei fod yn cadw disgyblaeth dda ar ei griw, ac yn gwahardd diodydd meddwol ar fwrdd ei long.
[[FileDelwedd:Bart Roberts.jpg|bawd|chwith]]
 
Gyrrodd [[y Llynges Frenhinol]] long ryfel, HMS Swallow dan y Capten Chaloner Ogle, i geisio ei ddal, ac yn 1722 bu brwydr rhwng y llong yma a'r ''Royal Fortune'' ger Cape Lopez, [[Gabon]]. Ar ddechrau'r ymladd safai Roberts yn ei wisg wychaf yn annog ei griw, ond tarawyd ef yn ei wddf gan fwled a'i ladd. Taflwyd ei gorff i'r môr yn ôl ei ddymuniad. Heb eu capten, ildiodd y gweddill o'r criw, a chrogwyd nifer ohonynt.