Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ynys Brydain"

Lleihawyd o 9 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 10fed ganrif10g using AWB
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 10fed ganrif10g using AWB)
Ceir cyfeiriadau mor gynnar â [[Nennius]] at Ryfeddodau Ynys Brydain, dinasoedd yr ynys (32 ohonynt) ac ati. Cyfeirir yn aml at "Ynys Brydain a'i thair rhag ynys," sef [[Môn]], [[Ynys Manaw|Manaw]] ac [[Ynys Wyth|Wyth]] (sylwer nad oes sôn am ynysoedd [[yr Alban]]).
 
Elfen bwysig arall yn hanes Ynys Brydain oedd y [[Mab Darogan]]. Credai'r Cymry y byddai arwr o'r gorffennol yn dychwelyd i gyflawni'r hen broffwydoliaeth fod y Cymry/Brython i ailfeddianu Ynys Brydain. Cafwyd corff mawr o gerddi a adnabyddir fel y [[brud]]iau neu'r [[canu darogan]] gyda'r Mab Darogan yn ganolog iddynt, dan sawl enw. [[Cadwaladr Fendigaid]] oedd brenin olaf Ynys Brydain cyn iddi gael ei meddiannu gan y Saeson, yn ôl y traddodiad. Un o destunau cynharaf y traddodiad yw'r gerdd ''Armes Prydain'' ("Y Broffwydoliaeth am Brydain"), a gyfansoddwyd yn y [[10fed ganrif10g]].
Ceir yn ogystal [[Trioedd Ynys Prydain]], sy'n gorff o drioedd nemonig sy'n rhestri arwyr a digwyddiadau Ynys Brydain, gan gynnwys arwyr o Gymru, yr Hen Ogledd, Cernyw a lleoedd eraill.
362,341

golygiad