Taliesin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}}, Yr oedd → Roedd using AWB
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 16eg ganrif16g, 13eg ganrif13g, 6ed ganrif6g using AWB
Llinell 2:
:''Mae hon yn erthygl am y bardd hanesyddol. Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler [[Taliesin (gwahaniaethu)]].''
 
Roedd '''Taliesin''' yn un o'r [[Bardd|beirdd]] cynharaf yn yr iaith [[Gymraeg]], a'r bardd Cymraeg cynharaf y ceir ei destunau ar glawr heddiw. Roedd Taliesin yn [[bardd llys|fardd llys]] i ddau o frenhinoedd y [[Brythoniaid]]: [[Cynan Garwyn]] o [[Teyrnas Powys|Bowys]] ac [[Urien Rheged]], brenin [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]]. Bu fyw yn ail hanner y [[6ed ganrif6g]] ac roedd yn perthyn i'r genhedlaeth ar ôl [[Aneirin]]. Fe'i crybwyllir yn y llyfr ''[[Historia Brittonum]]'' gan [[Nennius]] ynghyd ag [[Aneirin]], [[Cian]], [[Blwchfardd]] a [[Talhaearn Tad Awen|Thalhaearn Tad Awen]], fel bardd a ganai yn yr Hen Ogledd. Mae cerddi'r Taliesin hanesyddol wedi goroesi yn ''[[Llyfr Taliesin]]'', [[llawysgrif]] o ddechrau'r [[13eg ganrif13g]]. Maent yn perthyn i'r [[Hengerdd]]. Yn ''Llyfr Taliesin'' a llawysgrifau eraill ceir nifer o gerddi eraill yn ogystal, ar destunau amrywiol, sydd yn ddiweddarach ond a dadogir arno. Yr enw traddodiadol ar y bardd chwedlonol, cyfansoddwr tybiedig y cerddi chwedlonol amdano a'r daroganau yn ei enw, yw [[Taliesin Ben Beirdd]], ond nid oedd Cymry'r Oesoedd Canol yn gwahaniaethu rhwng y bardd hanesyddol ac arwr y chwedlau.
 
==Y Taliesin hanesyddol==
Llinell 22:
==Tad y Traddodiad Barddol==
{{Prif|Taliesin Ben Beirdd}}
Cofnododd [[Elis Gruffydd]] fersiwn o'r [[chwedl]] ''[[Hanes Taliesin]]'' yn y [[16eg ganrif16g]], a'r hanes yma a fersiynau diweddarach ohono, ynghyd â'r [[canu darogan]] a cherddi chwedlonol canoloesol, sydd yn sylfaen i ddelw Taliesin yn y diwylliant a dychymyg poblogaidd hyd heddiw, fel "Taliesin" neu dan yr enw traddodiadol [[Taliesin Ben Beirdd]]. Yn y [[traddodiad barddol]] Cymraeg, roedd Taliesin yn cael ei ystyried gan y beirdd fel Tad neu sylfaenydd y Traddodiad hwnnw ac roedd y chwedlau amdano yn gyfarwydd i bawb.
 
==Dosbarthiad ar y cerddi==