Tristfardd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 18fed ganrif18g, 16eg ganrif16g, 6ed ganrif6g using AWB
Llinell 1:
[[Bardd]] o'r [[Hen Ogledd]] a gysylltir ag [[Urien Rheged]] oedd '''Tristfardd''' (fl. ail hanner y [[6ed ganrif6g]] efallai). Buasai'n gyfoeswr i'r bardd [[Taliesin]]. Does dim o'i waith wedi goroesi.
 
==Traddodiadau==
Llinell 9:
:Ac Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan.<ref name="Rachel Bromwich 1991">Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991).</ref>
 
Mae chwedl (ddiweddar yn ei ffurf bresennol) yn ei wneud yn garwr i wraig Urien. Ceir tri [[englyn]] anghyflawn yng nghorff testun y chwedl sydd i'w cael mewn llawysgirfau o ddiwedd yr [[16eg ganrif16g]]. Mae'r englynion yn cofnodi ymddiddan rhwng Tristfardd ac Urien ac efallai'n deillio o destun coll cynharach. Yn un o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau]] [[Gwallter Mechain]], sy'n dyddio o ddiwedd y [[18fed ganrif18g]], ceir fersiwn o'r chwedl hon dan y teitl 'Chwedl Tristfardd bardd Urien Rheged'. Ynddi portreadir Tristfardd fel carwr dirgel gwraig Urien. Ymddengys nad yw'n sylweddoli pwy ydyw hi, oherwydd mae'n anfon Urien gyda neges iddi. Mae'r englynion yn rhan o gyfres (goll) sy'n ymddiddan rhwng y bardd ac Urien a'i wraig. Ar ddiwedd y chwedl mae Urien yn lladd Tristfardd ar ryd a elwir yn 'Rhyd Tristfardd' ac a leolir ger castell Urien (wedi ei gamleoli ym [[Maesyfed]], [[Powys]]).<ref name="Rachel Bromwich 1991"/>
 
Mae'r bardd canoloesol [[Cynddelw Brydydd Mawr]] yn cyfeirio sawl gwaith at Dristfardd ond heb ychwanegu ddim at ein gwybodaeth amdano. Gan fod Cynddelw yn hanu o [[teyrnas Powys|Bowys]] mae'n bosibl ei fod yn gyfarwydd â thraddodiadau amdano sydd wedi diflannu.<ref name="Rachel Bromwich 1991"/>