Llywarch Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif12g, 9fed ganrif9g, 6ed ganrif6g using AWB
Llinell 1:
Aelod o deulu brenhinol [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]] a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o [[englyn]]ion a elwyd gan [[Ifor Williams]] yn ''[[Canu Llywarch Hen]]'' oedd '''Llywarch Hen''' (fl. diwedd y [[6ed ganrif6g]]). Mae'n bosibl ei fod wedi olynu [[Urien Rheged]] fel brenin Rheged (bu farw [[Owain fab Urien]] cyn ei dad), ond nid oes sicrwydd am hynny.
 
==Hanes==
Llinell 6:
:Llywarch Hen mab [[Elidir Lydanwyn]] mab [[Meirchion]] mab Gorust Ledlwm mab [[Cenau fab Coel|Cenau]] mab [[Coel Hen|Coel]].<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991), Atodiad II.</ref>
 
Ceir enw Llywarch yn ach y brenin [[Gruffudd ap Cynan]] ar ddechrau ''[[Hanes Gruffudd ap Cynan]]'', a luniwyd yn ail hanner y [[12fed ganrif12g]], sy'n dangos fod y brenin [[Rhodri Mawr]] yn ddisgynydd uniongyrchol iddo a Choel Hen. Enwir Gwawr ferch [[Brychan]] yn fam Llywarch ac Urien yn y traethawd canoloesol ''De Situ Brecheniauc''.
 
==Traddodiad==
Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i [[Teyrnas Powys|Bowys]] a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddys erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai. Credir i'r cerddi gael eu cyfansoddi tua chanol y [[9fed ganrif9g]] gan fardd neu feirdd o Bowys.
Mae'r broses hon o drawsleoli arwyr yr Hen Ogledd i Gymru i'w gweld hefyd yn achos cymeriadau eraill, e.e. [[Taliesin]], [[Gwyddno Garanhir]], [[Myrddin]], ac [[Urien Rheged]] hefyd.