Elfael: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llydawr (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B →‎Hanes: canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif12g using AWB
Llinell 11:
Mae canolfannau gwleidyddol Elfael yn anhysbys, ond roedd Elfael ym meddiant disgynyddion [[Elystan Glodrydd]], hendaid i'r pumed o [[Llwythau Brenhinol Cymru|Lwythau Brenhinol Cymru]]. Mae'n bosibl felly fod Elfael yn fân deyrnas neu is-deyrnas yn yr [[Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|Oesoedd Canol Cynnar]]. Ymddengys fod Elfael wedi mwynhau cryn elfen o annibyniaeth fel arglwyddiaeth leol hyd cyfnod y [[Normaniaid]].
 
Yn y [[1070au]] a'r [[1080au]] dioddefodd ymosodiadau gan yr arglwyddi Normanaidd. Erbyn chwarter olaf y [[12fed ganrif12g]] roedd Elfael wedi dod dan ddylanwad yr [[Arglwydd Rhys]] trwy briodasau brenhinol. Erbyn [[1248]] daethai [[Elfael Uwch Mynydd]] i feddiant yr arglwydd [[Owain ap Maredudd]]. Yn [[1260]] daeth Owain i deyrngarwch [[Llywelyn ap Gruffudd]], a oedd yn ymestyn ei awdurdod yn y rhan honno o'r wlad, ond arosodd cwmwd [[Elfael Is Mynydd]] ym meddiant y teulu Normanaidd de Toni. Ond erbyn [[1263]] roedd deiliad Cymreig de Toni wedi troi at Lywelyn hefyd. Llwyddodd Llywelyn, fel [[Tywysog Cymru]], i ddal ei awdurdod yn yr ardal tan [[1276]].
 
Yn 1276, fel rhan o [[Cytundeb Trefaldwyn|Gytundeb Trefaldwyn]], daeth i feddiant y [[Normaniaid|Normaniad]] [[Ralph de Toni]] ac yna trwy ddisgynyddion yr arglwydd hwnnw i feddiant [[Iarll Warwick|Ieirll Warwick]]. Codwyd [[castell mwnt a beili|castell Normanaidd]] yn [[Castell Paun|Llanfair Castell Paun]] a fu un o gaerau pwysicaf [[y Mers]].