Anterliwt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 18fed ganrif18g, 17eg ganrif17g, 16eg ganrif16g using AWB
Llinell 1:
{{Llenyddiaeth Gymraeg}}
Math o [[drama|ddrama]] fydryddol boblogaidd a oedd ar ei hanterth yn ail hanner y [[18fed ganrif18g]] yw'r '''anterliwt''' (neu '''anterliwt'''). Daw'r enw o'r gair Saesneg ''interlude'' (sy'n tarddu o'r arfer o berfformio darnau dramataidd byr er diddanu'r dorf rhwng actau hir y [[drama firagl|dramâu miragl]] canoloesol). Roedd yn ffurf a ddatblygodd yn bennaf yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn arbennig yn siroedd [[Sir Ddinbych|Dinbych]] a [[Sir y Fflint|Fflint]]. Fe'i chwaraeid mewn ffeiriau, yn y dafarn neu ar fuarth fferm i ddiddanu'r werin.
 
Ceir yr enghraifft gynharaf o'r gair 'anterliwt' yng ngeiriadur y bardd [[Wiliam Llŷn]] (1534/5-1580), ond nid oes llawer o dystiolaeth uniongyrchol am anterliwtiau Cymraeg yn yr [[16eg ganrif16g]] a'r [[17eg ganrif17g]]. Daeth yn amlwg yn y ddeunawfed ganrif ac mae pob un o'r 44 anterliwt sydd wedi goroesi yn perthyn i'r ganrif honno a blynyddoedd cynnar y ganrif olynol.
 
[[Delwedd:Thomas Edwards (Twm o'r Nant) (1739-1810). Lewis Hughes, c. 1790-1800.jpg|170px|bawd|chwith|[[Twm o'r Nant]] (1739-1810), y mwyaf o'r anterliwtwyr]]
Llinell 9:
Mae'r anterliwtwyr mawr yn cynnwys [[Twm o'r Nant]] (8 anterliwt), y pwysicaf o lawer, [[Jonathan Huws]] o [[Llangollen|Langollen]], [[Elis Roberts (Elis y Cowper)]], [[Dafydd Jones]] o [[Trefriw|Drefriw]], [[Huw Jones]] o [[Llangwm|Langwm]], [[Siôn Cadwaladr]] o'r [[Y Bala|Bala]] a [[William Roberts]], clochydd [[Nanmor]] ac eraill. [[Bardd gwlad|Beirdd gwlad]] oedd nifer o'r rhain, neu fân grefftwyr.
 
Bu farw'r anterliwt pan drodd Cymru ei chefn ar yr hen arferion poblogaidd dan ddylanwad yr enwadau [[Anghydffurfiaeth|anghydffurfiol]] ar ddechrau'r [[19eg ganrif19g]].
 
==Darllen pellach==