Llanbadarn Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Pricey (sgwrs | cyfraniadau) B Trefn |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Pentref ar gyrion tref [[Aberystwyth]] yw '''Llanbadarn Fawr'''.
Mae'r [[Eglwys Padarn|eglwys]], sydd wedi ei chysegru i sant [[Padarn]], yn un nodedig. Roedd y [[clas]] yma yn ystod y Canol Oesoedd cynnar yn enwog am ei ddysg dan [[Sulien]] (c. 1010 - 1091) a'i fab [[Rhygyfarch ap Sulien]]. Roedd y clas yn parhau mewn bodolaeth pan ymwelodd [[Gerallt Gymro]] a Llanbadarn ar ei daith trwy Gymru yn [[1188]], er ei fod yn dirywio erbyn hynny. Ail-adeiladwyd yr eglwys yn [[1257]] yn dilyn tân, ac mae cryn dipyn o ail-adeiladu wedi bod wedyn.
Mae gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gampws yma, yn cynnwys yr adran gwyddor gwybodaeth ([[Coleg Llyfrgellwyr Cymru]] gynt) a'r adran [[Amaethyddiaeth]]. Mae dwy dafarn yn y pentref, y Llew Du a'r Gogerddan Arms. Yma hefyd y lleolir caeau chwaraeon [[Prifysgol Aberystwyth]] (Prifysgol Cymru, Aberystwyth tan 2007) ar gaeau Blaendolau.
==Cludiant Cyhoeddus==
[[Image:TrenLlanbadarnFawr.jpg|thumb|right|300px|Cyrhaedda trên yng ngorsaf Llanbadarn Fawr]]
Mae llawer o wasanaethau bwsiau yn Llanbadarn Fawr gan gynnwys 501 o Aberystwyth i [[Parc y Llyn|Barc y Llyn]] sydd yn dod bob ugain munud.
|