Meddygon Myddfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Dolenni allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 14eg ganrif14g, 13eg ganrif13g using AWB
Llinell 3:
Llinach o feddygon llysieuol yn byw ym mhentref [[Myddfai]] yn [[Sir Gaerfyrddin]] oedd '''Meddygon Myddfai'''.
 
Ceir y cofnod cyntaf amdanynt yn y [[13eg ganrif13g]], pan oedd [[Rhiwallon Feddyg]] a'i feibion Cadwgan, Gruffudd ac Einion, yn feddygon i [[Rhys Gryg]], tywysog [[Deheubarth]]. Cofnodir iddynt roi triniaeth iddo pan glwyfwyd Rhys mewn brwydr gerllaw [[Caerfyrddin]] yn [[1234]], ond ni fuont yn llwyddiannus yn yr achos yma a bu farw o'i glwyf, ymhen ychydig, yn [[Llandeilo]]. Parhaodd y llinach hyd [[1739]], pan fu farw'r olaf ohonynt, John Jones. Cedwir eu cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi meddyginiaethau llysieuol yn [[Llyfr Coch Hergest]], yn dyddio o ran olaf y [[14eg ganrif14g]], a [[llawysgrifau Cymreig]] eraill, diweddarach.
 
Cysylltir dechreuadau'r llinach a chwedl [[Llyn y Fan Fach]]. Yn y chwedl cytunodd llanc lleol, mab gweddw o Flaen Sawdde (ger [[Llanddeusant]]) i briodi merch brydferth a godai o'r llyn ar yr amod na fyddai yn ei tharo tair gwaith. Gwnaeth hynny'n hawdd gan mor brydferth yr oedd y ferch, a buont yn hapus iawn am flynyddoedd gan godi tŷ yn Esgair Llaethdy, ger Myddfai, a magu teulu yno. Roedd gan y ferch wartheg arbennig iawn ac anifeiliaid eraill. Ond dros amser fe wnaeth y gŵr daro ei wraig dair gwaith, a bu rhaid iddi fynd yn ôl i'r llyn yn ôl yr addewid gan ddwyn y gwartheg gyda hi. Ond daeth y fam yn ôl o bryd i'w gilydd i helpu a hyfforddi ei meibion, ac yn neilltuol Rhiwallon, sylfaenydd llinach y meddygon. Mewn rhai fersiynau Rhiwallon yw enw'r llanc sy'n priodi'r ferch hud a lledrith.