Llangelynnin, Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 15fed ganrif15g (2), 14eg ganrif14g (2), 12fed ganrif12g, 6ed ganrif6g (2) using AWB
Llinell 6:
Cyn-blwyf ym [[Conwy (sir)|Mwrdeisdref Sirol Conwy]] yw '''Llangelynnin''', hefyd weithiau '''Llangelynnin''' ({{coord|53.2458|-3.8730|type:landmark_region:GB|display=inline|name=Llangelynnin Church}}) sydd wedi'i leoli tua tair milltir i'r de o [[Conwy|Gonwy]], ger pentref bychan [[Henryd]]. Ceir ychydig o ffermydd a thai gwasgaredig yn y cyffiniau, ond yr adeilad mwyaf nodedig yw hen eglwys [[Sant Celynnin|Celynnin]] (neu 'Sant Celynin' ar yr arwyddion) a saif yng nghysgod bryn o'r enw Tal y Fan (610m), ac sydd wedi'i chofrestru fel adeilad hynod o bwysig ers 13 Hydref 1966: Gadd I ar gofrest Cadw (Rhif ID Cadw: ID: 3193).<ref>[http://www.britishlistedbuildings.co.uk/wa-3193-st-celynin-s-old-church-henryd#.VaICX_lViko Gwefan www.britishlistedbuildings.co.uk; Data gan Cadw;] adalwyd 12 Gorffennaf 2015</ref>
 
Saif yr eglwys mewn safle anghysbell, 947 troedfedd uwch lefel y môr, uwchben [[Dyffryn Conwy]], ychydig i'r de-orllewin o bentref [[Henryd]]. Cysegrir hi i Sant Celynnin, oedd yn byw yn y [[6ed ganrif6g]]. Credir y gall corff yr eglwys ddyddio o'r [[12fed ganrif12g]], ac mae rhannau healaeth ohoni o'r [[14eg ganrif14g]]. Adeiladwyd rhan ychwanegol, "Capel y Meibion", yn y [[15fed ganrif15g]].
[[Delwedd:Llangelynnin Conwy Chwefr 2015 2.JPG|bawd|chwith|Penglog ac esgyrn ar y mur ger y pulpud.]]
 
Llinell 15:
 
==St. Celynin==
Sant o'r [[6ed ganrif6g]] oedd Celynnin, ac yn ôl y traddodiad roedd yn un o feibion y Tywysog [[Helig ap Glanawg]], a breswyliai yn [[Llys Helig]] (olion a ffurfiwyd o graig!)<ref>{{cite book|last=Bird|first=Eric|title=Encyclopedia of the World's Coastal Landforms|year=2010|publisher=Springer|isbn=978-1402086380}}</ref> ger [[Penmaenmawr]]. Mae'n bosib fod Celynnin yn perthyn i Rhun, mab [[Maelgwn Gwynedd]], Tywysog Gwynedd, a drigai yn y 6ed ganrif, ac roedd ganddo frawd o'r enw Rhychwyn.
 
==Yr eglwys ei hun==
Ychydig iawn o newidiadau a fu yn yr hen eglwys yn y ddau gan mlynedd diwethaf, sy'n golygu fod llawer o nodweddion pwysig wedi'u cadw.
 
Y rhan hynaf o'r eglwys yw ei chanol, sy'n dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif. Mae'n debyg i'r [[cangell|gangell]] gael ei hychwanegu yn y [[14eg ganrif14g]]. Mae trawstiau pren y to (15fed ganrif) yn [[derwen|dderw]] tywyll a thros y blynyddoedd fe drwsiwyd rhannau o'r to gyda phren [[ywen|yw]], sydd o bosib wedi'u tyfu yn y fynwent, gan fod olion coed yw i'w cael yno. Lluniwyd y trothwy a chromfachau'r drws yn y 14eg ganrif er bod y drws ei hun ychydig yn iau.
 
Yn y [[15fed ganrif15g]] y codwyd y cyntedd, ac mae ynddo ffenestr fechan anghyffredin iawn, yn y wal dwyreiniol.
 
Gyferbyn a Chapel y Meibion, ceid capel arall, sef "Capel Eirianws", a enwyd ar ôl fferm gyfagos; mae'n ddigon posib mai perchennog y fferm a dalodd am ei adeiladu. Dymchwelwyd Capel Eirianws yn y [[19eg ganrif19g]], ond gwelir olion ohono o'r tu allan.
 
===Y tu allan===