Capel Garmon (siambr gladdu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
Llinell 7:
Gellir gweld gweddillion tomen hirsgwar, sydd a'i ymylon wedi eu nodi gan res o gerrig. Ar yr ochr ddwyreiniol mae porth ffug, nad yw'n cynnig ffordd i mewn i'r domen. Roedd y fynedfa go-iawn ar yr ochr ddeheuol, gyda chyntedd yn agor allan i ystafell sgwâr, a dwy siambr gladdu grwn bob ochr iddi. Mae'r maen capan yn dal yn ei le dros y siambr orllewinol. Bu cloddio archaeolegol yma yn [[1925]], pan ail-adeiladwyd y rhan uchaf o'r waliau cerrig rhwng y meini mwy ar hyd yr ochrau; mae'r rhannau isaf yn wreiddiol.
 
Dywedir i'r beddrod gael ei ddefnyddio fel stabl yn y [[19eg ganrif19g]], ac mae'n debyg mai yr adeg honno y tynnwyd un o'r meini o'r siambr orllewinol. Trwy'r bwlch yma y ceir mynediad i mewn i'r siamberi heddiw, yn hytrach nag ar hyd y cyntedd gwreiddiol. Mae arwyddbost yn cyfeirio i'r siambr gladdu o'r ffordd fechan sy'n arwain i'r de-ddwyrain o'r pentref, a gellir dilyn llwybr cyhoeddus tuag ati. Mae'r beddrod dan ofal [[Cadw]].
 
==Delweddau==