Statud Rhuddlan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎Creu siroedd newydd: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
Llinell 5:
 
== Creu siroedd newydd ==
[[FileDelwedd:Cofnod o Statud Rhuddlan Stryd Fawr 05.JPG|bawd|chwith|Cofnod o Statud Rhuddlan ar fur adeilad yn Rhuddlan 2014.]]
Rhannodd Statud Rhuddlan y Dywysogaeth yn [[Siroedd Cymru cyn ad-drefnu 1974|siroedd]] newydd, a grëwyd ar y patrwm sirol Seisnig. Rhannwyd [[Gwynedd Uwch Conwy]], calon Teyrnas Gwynedd, yn dair sir - [[Ynys Môn|Sir Fôn]], [[Sir Feirionnydd]], a [[Sir Gaernarfon]] - a chrëwyd [[Sir y Fflint]], yn [[Y Berfeddwlad]] ([[Gwynedd Is Conwy]]). Roedd y siroedd newydd hyn yn seiliedig i raddau helaeth ar yr hen [[cantrefi a chymydau Cymru|gantrefi a chymydau Cymreig]]; cyfunwyd cantrefi [[Arfon]], [[Arllechwedd]], [[Eifionydd]], a [[Llŷn]], a chwmwd y [[Creuddyn (Rhos)|Creuddyn]], i ffurfio Sir Gaernarfon, er enghraifft. Sefydlwyd swydd ''Justiciar'' (prif ustus) Gogledd Cymru i reoli siroedd Môn, Caernarfon a Meirionnydd gyda thrysorlys taleithiol yn nhref [[Caernarfon]]. Yn yr un modd, sefydlwyd swydd ''justiciar'' Gorllewin Cymru yn [[Sir Aberteifi]] a [[Sir Gaerfyrddin]].<ref>''Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415'', pennod 14.</ref> Ni sefydlwyd y siroedd eraill cyn 1536 a pharhaodd arglwyddiaethau'r Mers yn annibynnol ar Goron Lloegr tan hynny.