Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Nanhyfer"

Lleihawyd o 33 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 11eg ganrif11g, 10fed ganrif10g, 6ed ganrif6g (2) using AWB
(tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB)
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 11eg ganrif11g, 10fed ganrif10g, 6ed ganrif6g (2) using AWB)
Pentref bychan yn [[Sir Benfro]] yw '''Nanhyfer''' neu '''Nyfer''' ([[Saesneg]]: ''Nevern''). Saif gerllaw [[Afon Nyfer]] gerllaw bryniau [[Preseli]].
 
Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant [[Brynach Wyddel|Brynach]]; a chredir bod yr eglwys bresennol, sy'n dyddio o'r cyfnod Normanaidd ond wedi ei hail-adeiladu'n helaeth, ar safle clas Brynach yn y [[6ed ganrif6g]]. Yn y fynwent mae [[Croes Geltaidd]] yn dyddio o'r [[10fed ganrif10g]] neu ddechrau'r [[11eg ganrif11g]]. Gerllaw mae carreg gyda'r arysgrif [[Lladin|Ladin]] "VITALIANI EMERTO" ac mewn [[Ogam]] "vitaliani". Yn yr eglwys mae maen arall gyda'r arysgrif "MAGLOCUNI FILI CLUTORI" mewn Lladin a "maglicunas maqi clutar.." mewn Ogam. Credir bod y garreg yma yn dyddio o'r [[5ed ganrif|5ed]] neu'r [[6ed ganrif6g]]. Roedd yr hynafiaethydd [[George Owen]] yn frodor o Nanhyfer, ac mae wedi ei gladdu yma.
 
Rhyw 150 medr i'r gogledd-orllewin o'r eglwys mae gweddillion [[Castell Nanhyfer]], a adeiladwyd gan [[Robert fitz Martin]] tua [[1108]]. Dinistriwyd y castell gan y Cymry yn [[1136]]. Yn ddiweddarach cafodd ei fab, William fitz Martin, y castell yn ôl pan briododd ferch [[Rhys ap Gruffydd]], ond tua [[1189]] gyrrodd Rhys ef ohono.
365,997

golygiad