Erging: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Hanes cynnar: canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif6g using AWB
Llinell 5:
Gorweddai'r deyrnas yn bennaf yn yr hyn sydd erbyn heddiw yn orllewin [[Swydd Henffordd]] yn [[Lloegr]]. Canol y deyrnas oedd yr ardal rhwng afonydd [[afon Mynwy|Mynwy]] a [[afon Gwy|Gwy]] (Swydd Henffordd), ond ymestynnai hefyd i'r [[Sir Fynwy]] fodern ac i'r dwyrain o afon Gwy lle ceir safle tref [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] ''Ariconium'' (yn [[Weston under Penyard]] heddiw); credir fod yr enw 'Erging' yn deillio o enw'r dref honno a oedd, mae'n bosibl, yn brifddinas y deyrnas fechan.
 
Mae gwreiddiau'r deyrnas yn anscir. Mae'n bosibl ei bod yn cynrychioli ffin ddwyreiniol awdurdod y [[Silwriaid]], y bobl [[Celtiaid|Geltaidd]] a drigai yn ne-ddwyrain Cymru pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid. Bu Erging yn rhan o deyrnas [[Glywysing]] (dwyrain [[Morgannwg]]) a [[Teyrnas Gwent|Gwent]]), ond ymddengys iddi ddod yn annibynnol yn ystod teyrnasiad [[Peibio Clafrog]], ganol y [[6ed ganrif6g]]. Taid [[Sant]] [[Dyfrig]], [[esgob]] cyntaf Erging, oedd Peibio, yn ôl yr achau. Roedd Erging yn ganolfan bwysig i gwlt y sant yn yr Oesoedd Canol Cynnar.
 
Roedd cefnder Dyfrig, [[Gwrgan Fawr]], yn un o frenhinoedd mwyaf grymus Erging a reolai ardaloedd Gwent a Morgannwg hyd at lannau [[afon Nedd]]. Ymddengys mai ei ŵyr [[Athrwys ap Meurig]] oedd teyrn olaf yr Erging annibynnol a syrthiodd yn ôl dan reolaeth teyrnas Gwent ar ôl ei farw yn y flwyddyn [[655]].