Llanusyllt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfrifiad 2011: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g using AWB
Llinell 3:
Pentref glan-môr ym mhlwyf Sant Isel, yn ne-ddwyrain [[Sir Benfro]], yw '''Saundersfoot'''. Gyda'i gymydog [[Dinbych-y-Pysgod]], 2 filltir i'r de, mae'n un o'r cyrchfeydd gwyliau mwyaf poblogaidd yng [[Cymru|Nghymru]]. Mae'n enwog am ei draethau braf ar [[Bae Caerfyrddin|Fae Caerfyrddin]].
 
Adeiladwyd yr [[harbwr]] yn [[1829]] ar gyfer allforio [[glo carreg]] (''anthracite'') o'r [[Diwydiant glo Cymru|pyllau glo]] niferus yn yr ardal (e.e. yn ardal [[Stepaside]]), ond cyn hynny allforid glo o'r traeth ei hun am ganrifoedd. Tyfodd y pentref o gwmpas yr harbwr. Mae cwrs hen dramffordd o bwll Cwrt Bonville yn croesi'r pentref tra fod y yr hen dramffordd o bentref [[Amroth]] yn ffurfio'r promenad heddiw. Daeth y diwydiant glo i ben ar ddechrau'r [[20fed ganrif20g]].
 
Manteisiodd y pentref ar y [[rheilffordd]] ger llaw i ddenu ymwelwyr o ardaloedd glofaol a dinesig [[De Cymru]] a gorllewin [[Lloegr]] a thyfodd i fod yn bentref glan-môr poblogaidd. Gorwedd ym [[Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro|Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro]] ac mae [[Llwybr Arfordir Penfro]] yn rhedeg trwyddo.