Y plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LesleyLP (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 16eg ganrif16g using AWB
Llinell 7:
[[Delwedd:Ar Fore Dydd Nadolig 2015.webmsd 07.webm|de|bawd|300px|Ar Fore Dydd Nadolig]]
[[Delwedd:Pa Beth yw'r Golau.webmsd 01.webm|de|bawd|300px|Pa Beth yw'r Golau]]
Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r '''plygain'''. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu [[carol plygain|carolau'r plygain]]. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/277/ Gwefan Amgueddfa Cymru;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref> Mae'n dyddio nôl i'r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y [[16eg ganrif16g]] gydag elfennau llawer hŷn na hynny.
 
Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair [[Lladin]] ''pullicantiō''<ref>http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?plygain</ref>, sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y [[Llydaweg]] fel ''pellgent''. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am [[Sion Corn]] ydy ''Tad-kozh ar pellgent'' ("Tad-cu y plygain").