Brwydr Camlan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 19 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q862619 (translate me)
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 13eg ganrif13g using AWB
Llinell 9:
: ("Brwydr Camlan, yn yr hon y bu farw Arthur a Medrawd")
 
Ceir cyfeiriad at y frwydr yn y chwedl ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'' o'r [[13eg ganrif13g]]. Ceir sawl cyfeiriad at y frwydr yng ngwaith y beirdd hefyd, gan amlaf dan yr enw ''gwaith Camlan'' neu ''gwaith Cad Camlan'', fel trosiad am frwydr ffyrnig neu laddfa (''gwaith''='brwydr'). Yng ngwaith y [[Gogynfeirdd]] ([[Beirdd y Tywysogion]]) ceir cyfeiriadau at Frwydr Camlan mewn cerddi gan [[Cynddelw Brydydd Mawr]], [[Prydydd y Moch]], [[Llywelyn Fardd]], a [[Gruffudd ab yr Ynad Coch]]. Mae un o '[[Englynion y Beddau]]' yn sôn am 'Bedd mab Osfran yng Nghamlan'.<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, arg. newydd 1991), tud. 160.</ref>
 
Cyfeirir at Frwydr Camlan mewn pump o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]]. Yn nhriawd 30 (trefn golygiad [[Rachel Bromwich]]) disgrifir gosgordd [[Alan Fyrgan]] fel un o 'Dri Anniwair ('anffyddlon') Deulu Ynys Prydain' am iddynt ei adael i ymladd ym Mrwydr Camlan gyda dim ond ei weision. Cyfeirir at [[Medrawd|Fedrawd]] fel un o'r 'Trywyr Gwarth' mewn triawd hir (51) sy'n rhoi hanes Camlan. Mae triawd arall (53) yn cofnodi [[Gwenhwyfach]] yn taro [[Gwenhwyfar]] fel un o'r 'Tair Gwith (Niweidiol) Balfawd ('cernod')' am iddo arwain at Frwydr Camlan. Cyfeira triawd arall (59) at ymrannu llu Arthur yn dair rhan cyn y frwydr yn un o'r 'Tri Anfad ('anffodus') Gynghor'. Disgrifir Brwydr Camlan ei hun yn un o 'Tri Ofergad ('brwydr ddiffrwyth') Ynys Prydain' am ei fod yn deillio o weithred dynghedfennol Gwenhwyfach yn taro Gwenhwyfar (triawd 84).<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, arg. newydd 1991). Trioedd 30, 51, 53, 59, 84.</ref>