Llyfr Sant Chad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dyddiad neu ddau
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 10fed ganrif10g, 8fed ganrif8g using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:LichfieldGospelsEvangelist.jpg|250px|bawd|Un o dudalennau '''Llyfr Sant Chad''']]
[[Llawysgrif]] [[Lladin|Ladin]] a gedwir yng nghadeirlan [[Lichfield]] yng nghanolbarth [[Lloegr]] yw '''Llyfr Sant Chad''' (a elwir hefyd yn '''Llyfr Teilo''' ac '''Efengylau Caerlwytgoed'''). Mae'n cynnwys [[Efengylau]] [[Yr Efengyl yn ôl Mathew|Mathew]] a [[Yr Efengyl yn ôl Marc|Marc]] a rhan o [[Yr Efengyl yn ôl Luc|Efengyl Luc]]. Mae'r testunau mewn [[ysgrifen Ynysig]] ac yn dyddio o hanner cyntaf yr [[8fed ganrif8g]]. Mae'r llawysgrif wedi'i haddurno'n gain yn yr arddull [[Celtiaid|Geltaidd]] tebyg i'r hyn a welir yn ''[[Llyfr Lindisfarne]]''.
 
==Llandeilo Fawr==
Tybir i'r llawysgrif ddod i Lichfield o [[Llandeilo Fawr|Landeilo Fawr]] ar ddiwedd y [[10fed ganrif10g]]. Ceir sawl cofnod [[Hen Gymraeg]] yn y llawysgrif sy'n ymwneud â mater cyfreithiol. Dywedir mewn un ohonynt i Gelhi fab Arihtuid roi'r llawysgrif 'i Dduw a Sant [[Teilo]] ar yr allor', ac iddo'i brynu am bris ei geffyl gorau. Ymddengys felly mai 'Llyfr Teilo' oedd enw'r llawysgrif yn wreiddiol a'i bod wedi'i llunio yn ne Cymru yn hanner cyntaf yr wythfed ganrif. Erbyn diwedd y 10fed ganrif roedd i'w weld yn eglwys gadeiriol y Santes Fair a Sant Chad yng [[Caerlwytgoed|Nghaerlwytgoed]], [[Swydd Staffordd]]; yno, hyd heddiw, y mae - mewn arddangosfa yn llyfrgell y gadeirlan ers 1982. Ailrwymwyd y lawysgrif ym 1962 gan Roger Powell.
 
==Hen Gymraeg==