Y Ddraig Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 11 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2745280 (translate me)
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, [[File: → [[Delwedd: using AWB
Llinell 1:
[[FileDelwedd:Flag of Wales 2.svg|thumbbawd|Y Ddraig Goch]]
:''Gweler hefyd [[Baner Cymru]]''.
'''Y Ddraig Goch''' yw prif symbol cenedlaethol [[Cymru]], sydd i'w weld ar [[Baner Cymru|faner genedlaethol y wlad]] (a adnabyddir ar lafar fel "Y Ddraig Goch"). Ceir sawl chwedl am y Ddraig Goch, o'r [[Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|Oesoedd Canol Cynnar]] ymlaen. Cysylltir y ddraig â [[Dinas Emrys]] yn [[Eryri]] ac mae ei gwreiddiau fel symbol o'r [[Cymry]] a'u gwlad yn hen.
 
==Chwedloniaeth==
[[Image:Welsh Dragon Memorial Mametz Wood.jpg|thumbbawd|Cofeb Gymreig [[Brwydr Coedwig Mametz]]]]
===Chwedl Lludd a Llefelys===
Yn y chwedl [[Cymraeg Canol]] ''[[Cyfranc Lludd a Llefelys]]'', a gyfrifir fel rheol yn un o'r [[Mabinogion]], mae'r ddraig goch yn ymladd â draig wen sy'n ceisio goresgyn [[Ynys Brydain]]. Mae sgrechiadau'r ddraig honno yn peri i wragedd feichiog golli eu plant ac yn troi anifeiliad a phlanhigion yn anffrwythlon. Â [[Lludd]], brenin y [[Brythoniaid]], i geisio cymorth ei frawd doeth [[Llefelys]] yn Ffrainc. Mae Llefelys yn dweud wrtho i gloddio twll yng nghanol Ynys Brydain, ei lenwi â [[medd]], a'i orchuddio â llen. Gwna Lludd hyn, ac mae'r ddwy ddraig yn yfed y fedd ac yn syrthio i gysgu. Mae Lludd yn eu dwyn a'u carcharu, wedi eu lapio yn y llen o hyd, yn [[Dinas Emrys|Ninas Emrys]] yn [[Eryri]].
Llinell 21:
Pan laniodd [[Harri Tudur]] ym Mhenfro yn [[1485]], cododd baner gyda llun o ddraig goch [[Cadwaladr Fendigaid]] ar faes gwyrdd a gwyn arno, a ddaeth i gynrychioli Tŷ'r Tuduriaid, a raliodd nifer o Gymry ato ar ei ffordd i [[Brwydr Bosworth|Faes Bosworth]]. Cynwyswyd y Ddraig Goch yn [[arfbais]] y [[Tuduriaid]] wedyn.
 
O ddechrau'r [[19eg ganrif19g]] ymlaen, daeth y Ddraig Goch i fri cenedlaethol eto ac fe;i defnyddwyd gan sawl cymdeithas gwladgarol ac fel arwydd cyffredinol o Gymru a'r Cymry.
 
Yn [[1953]], mabwysiadodd y [[Swyddfa Gymreig]] yr arwyddair "Y ddraig goch dyry gychwyn" ar ei arwyddlun brenhinol. Ni wyddys pwy a gynghorodd y Swyddfa Gymreig i wneud hynny, ond mae'r llinell, sy'n dod o gerdd gan y bardd [[Deio ab Ieuan Du]], yn cyfeirio at darw yn hytrach na draig, a'r "cychwyn" yw'r weithred o genhedlu gyda buwch yn yr un cae.