Afon Rhondda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Afon Rhondda''' yn afon yn ne [[Cymru]] sy'n cael ei ffurfio lle mae dwy afon, afonydd Rhondda Fawr a Rhondda Fach yn cyfarfod. Er gwaethaf eu henwau mae'r dwy tua'r un hyd.
 
Mae Afon Rhondda Fawr yn tarddu ger [[Llyn Fawr]] ac yn llifo i lawr [[Cwm Rhondda]] i ymuno ag [[Afon Tâf (Caerdydd)|Afon Tâf]] gerllaw [[Pontypridd]]. Mae'n llifo trwy [[Blaenrhondda]] lle mae Nant y Gwair yn ymuno a hi, yna trwy gyfres o bentrefi a threfi glofaol yn cynnwys [[Treherbert]], [[Treorci]], [[Pentre]], [[Ton Pentre]], [[Ystrad Rhondda]], [[Llwynypia]], [[Tonypandy]], [[Dinas Rhondda]], [[Y Porth]] a [[Trehafod]].
 
Ceir tarddiad Afon Rhondda Fach ar y bryniau uwchben Blaenrhondda, yn agos i darddiad y Rhondda Fawr. Mae'n llifo trwy gronfa Lluestwen yna trwy [[Maerdy]] a [[Ferndale]], [[Tylorstown]] ac [[Ynyshir]] cyn ymuno a Rhondda Fawr yn y Porth.
Llinell 8:
 
[[Categori:Afonydd Cymru|Rhondda]]
[[Categori:Rhondda Cynon Taf]]
 
[[en:River Rhondda]]