Al-Nahda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newid yr wyth olaf yn y rhestr i orgraff newydd wici, replaced: Tunisia → Tiwnisia using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 18fed ganrif18g using AWB
Llinell 1:
:''Erthygl am y mudiad diwylliannol yw hon. Am y blaid wleidyddol Tiwnisiaidd gweler [[Hizb al-Nahda]].''
Mudiad neu duedd diwylliannol ac ymenyddol yn y [[byd Arabaidd]] ar ddiwedd y [[19eg ganrif19g]] a dechrau'r [[20fed ganrif|20fed]] a'i wreiddiau'n gorwedd yn [[Libanus]], ond a symudodd wedyn i'r [[Aifft]] yn bennaf, oedd '''Al-Nahda''' neu '''an-Nahda'''/'''Ennahda''' ([[Arabeg]]: النهضة, "Dadeni").
 
Roedd Al-Nahda yn un o'r tueddiadau hanesyddol pwysicaf ym myd ymenyddol a diwyllianol yr [[Arabiaid]], ac yn neilltuol Arabiaid y [[Dwyrain Canol]], a gafodd effaith pellgyrhaeddol ar [[llenyddiaeth Arabeg|lenyddiaeth]], [[gwleidyddiaeth]], [[Diwylliant Arabaidd|diwylliant]] a [[Islam|chrefydd]]. Yn y byd Arabaidd caiff ei gymharu'n aml â'r [[Yr Oleuedigaeth|Oleuedigaeth]] yn [[Ewrop]] yn y [[18fed ganrif18g]], fel cyfnod o foderneiddio a datblygu ymenyddol a diwygiad gwleidyddol a chrefyddol.
 
Bu gan Al-Nahda ran allweddol yn y twf mewn [[cenedlaetholdeb Arabaidd]] a'r her i ddominyddiaeth ar y byd Arabaidd gan y pwerau [[gwladychiaeth|gwladychol]] Ewropeaidd ([[Ffrainc]] a [[DU|Phrydain]] yn enwedig). Cafodd syniadau a datblygiadau Ewropeaidd ddylanwad mawr ar Al-Nahda, ond ar yr un pryd teimlai rhai fod angen gwrthsefyll y dylanwadau hynny trwy atgyfnerthu traddodiadau Arabaidd ac [[Islam]]aidd a chryfhau undod diwylliannol yr Arabiaid. Ymhlith yr ysgogiadau a arweiniodd at eni'r mudiad gellid crybwyll y sioc a barodd gorsegyniad yr Aifft gan [[Napoleon]] yn [[1798]], a'r symudiadau am ddiwygiad gan rhai o ''[[khedive]]s'' y wlad honno, fel [[Muhammad Ali]]. Dylanwad arall oedd y diwygiadau ''tanzimat'' gan [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]], rheolwr rhan helaeth o'r Dwyrain Canol hyd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]. Cyflwynodd y diwygiadau hyn drefn gyfansoddiadol i wleidyddiaeth yr ymerodraeth a arweiniodd yn y pen draw i greu dosbarth gwleidyddol Arabaidd a nifer o'i aelodau yn dymuno [[annibyniaeth]] a rhyddid i'r Arabiaid.