Carthago: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|nl}} using AWB
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 2il ganrif2g using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Carthage location.png|thumbbawd|rigth|Lleoliad Carthago]]
 
Mae '''Carthago''' (o'r [[Lladin]], o'r [[Ffeniceg]] ''Qart-Hadašh'', y "Ddinas Newydd" yn wreiddiol, a ysgrifennir heb y llafariaid yn y Ffeniceg fel <''qrt hdšh''>, [[Groeg (iaith)|Groeg]]: Καρχηδών (Carchedón), [[Arabeg]]: قرطاج neu قرطاجة‎, [[Ffrangeg]]: ''Carthage'') yn ddinas yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]], yn [[Tiwnisia|Nhiwnisia]] fodern. Saif gerllaw [[Gwlff Tiwnis]]. Yn y [[yr Henfyd|cyfnod clasurol]] roedd yn un o'r pŵerau mawr, a bu'n ymladd yn erbyn y [[Groegiaid]] ac wedyn yn erbyn y [[Rhufeiniaid]].
Llinell 10:
 
== Hanes ==
[[Delwedd:Karthago Tophet 2.JPG|thumbbawd|chwith|250px|Y Toffet yn ninas Carthago]]
Dechreuodd Carthago ymestyn ei ffiniau yn fuan, a bu'n ymladd yn erbyn y Groegwyr am feddiant o ynys [[Sicilia]]. Roedd llynges Carthago yn arbennig o gryf, tra roedd ei byddin yn dibynnu'n drwm ar filwyr cyflogedig o wahanol wledydd. Yn [[480 CC]], bu ymladd rhwng [[Gelon]], unben [[Siracusa]], gyda chefnogaeth y Groegiaid, a'r Carthaginiaid dan arweiniad [[Hamilcar Barca]]. Bu Gelon yn fuddugol ym mrwydr Himera. Erbyn tua [[410 CC]] yr oedd Carthago wedi adennill ei nerth ac wedi ennill tiriogaethau yng Ngogledd Affrica yn cyfateb yn fras i Twnisia fodern. Yn [[409 CC]] dechreuodd Hannibal Mago ymgyrch arall i geisio cipio Sicilia, ond wedi iddo ef farw o'r pla gwnaeth ei olynydd, [[Himilco]], gytundeb heddwch a gadawodd yr ynys. Roedd trydydd ymgais dan [[Hamilcar]] yn fwy llwyddiannus, ac erbyn [[310 CC]] roedd yn rheoli'r rhan fwyaf o'r ynys; er i Siracusa barhau dan reolaeth y Groegiaid.
 
[[Delwedd:Carthage.jpg|thumbbawd|250px|Gweddillion dinas Rufeinig Carthago]]
 
Tyfodd Carthago i fod yn ddinas eithriadol o gyfoethog, ond yn [[264 CC]] dechreuodd rhyfel yn erbyn Rhufain am feddiant o Sicilia, y [[Rhyfel Pwnig Cyntaf]] fel y gelwid ef gan y Rhufeiniaid. Gorchfygwyd Carthago gan y Rhufeiniaid yn [[241 CC]], a chollodd ei threfedigaethau. Yn y blynyddoedd dilynol enillodd drefedigaethau newydd yn Sbaen dan arweiniad [[Hamilcar Barca]], a daeth yn bwerus unwaith eto. Dechreuodd yr [[Ail Ryfel Pwnig]] yn erbyn y Rhufeiniaid yn Sbaen yn [[218 CC]]. Penderfynodd y cadfridog Carthaginiaidd [[Hannibal]] ymosod ar yr [[Eidal]], ac enillodd nifer o fuddugoliaethau syfrdanol dros y Rhufeiniaid, a ddioddefodd golledion enbyd. Fodd bynnag Rhufain fu'n fuddugol unwaith eto, ac yn [[202 CC]] bu raid i Carthago dderbyn telerau Rhufain ac ildio, gan golli ei threfedigaethau unwaith eto. Gorchfygwyd Carthago gan y Rhufeiniaid eto yn y [[Trydydd Rhyfel Pwnig]] ([[149 CC]] hyd [[146 CC]]), a dinistriwyd y ddinas yn llwyr.
 
Yn ddiweddarach adeiladwyd dinas Rufeinig ar y safle, a daeth yn un o ddinasoedd mwyaf yr ymerodraeth. Yn yr [[2il ganrif2g]], Carthago oedd prifddinas talaith [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]] gyda phoblogaeth o tua 400,000. Gweddillion y ddinas yma sydd i'w gweld yn bennaf ar y safle heddiw, ond mae rhywfaint o weddillion yr hen ddinas i'w gweld hefyd.
 
{{Safleoedd archaeolegol Tiwnisia}}