Alecsander Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
Yn gosod File:Napoli_BW_2013-05-16_16-24-01.jpg yn lle Napoli_BW_2013-05-16_16-24-01_DxO.jpg (gan CommonsDelinker achos: File renamed:).
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Napoli BW 2013-05-16 16-24-01.jpg|thumbbawd|rightdde|250px|Alecsander ym mrwydr Issus. [[Mosaic]] yn Amgueddfa Archaeolegol Gendelaethol [[Napoli]]]]
 
'''Alecsander III, brenin [[Macedon]]''', a elwir yn '''Alecsander Fawr''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: Μέγας Αλέξανδρος) [[21 Gorffennaf]] [[356 CC]] - [[13 Mehefin]] [[323 CC|323]] oedd brenin Macedon rhwng 336 a 323. Cafodd ei eni yn ninas [[Pella]], prifddinas Macedon, yn fab i [[Philip II, brenin Macedon|Philip II]] a'i wraig [[Olympias]]. Concwerodd y rhan fwyaf o'r [[Ymerodraeth Bersaidd]] a rhan fawr o hynny o'r byd oedd yn wybyddus yn ei amser ef.
Llinell 9:
Yr oedd Philip eisoes wedi bwriadu ymosod ar yr ymerodraeth Bersaidd, a gweithredodd Alecsander ar gynlluniau ei dad. Croesodd i [[Asia Leiaf]] a gorchfygodd y Persiaid ym [[Brwydr Granicus|mrwydr Granicus]]. Llwyddodd i osod ei awdurdod ar y rhan fwyaf o ddinasoedd Groeg gorllewin Asia Leiaf a theyrnasoedd fel [[Mysia]], [[Lydia]], [[Caria]] a [[Lycia]]. Llwyddodd ei gafrdidog [[Parmenion]] i dawelu [[Phrygia]]. Y flwyddyn ganlynol aeth ymhellach i'r dwyrain. Ymunodd byddinoedd Alecsander a Parmenion ac aethant yn eu blaen trwy'r [[Pyrth Cilicia]] enwog ac i lawr i wastadiroedd [[Cilicia]]. Gorchfygodd frenin Persia, [[Darius III, brenin Persia|Darius III]], ym [[Brwydr Issus|mrwydr Issus]] (ar y ffin â [[Syria]] heddiw).
 
[[Delwedd:Aleksander-d-store.jpg|thumbbawd|leftchwith|250px|Cerfddelw o Alecsander Fawr]]
 
Yn hytrach na dilyn Darius, troes Alecsander ei olygon i'r de. Roedd yn hanfodol iddo dorri'r cysylltiad rhwng Darius a llynges y Persiaid ar [[Môr Canoldir|Fôr y Canoldir]], a oedd yn fygythiad i Asia Leiaf a Macedon ei hun. Concrodd Alecsander [[Ffenicia]] wedi gwarchae saith mis ar ddinas [[Tyrus]]. Anafwyd ef yn ddifrifol yn ystod y gwarchae ar ddinas [[Gaza]], a bu raid iddo aros yno am ddau fis i wella. Aeth ymlaen i'r [[Yr Hen Aifft|Aifft]], lle cyhoeddwyd ef yn fab y duw [[Amon]] ar ôl ymweliad â [[Teml Jupiter-Ammon|Theml Jupiter-Ammon]] yn [[Siwa]], ger y ffin â thalaith [[Cyrenaica]] ([[Libia]] heddiw). Sefydlodd ddinas [[Alexandria]] yn yr Aifft, un o nifer o ddinasoedd a sefydlodd sy'n dwyn ei enw. Yn 331 gorchfygodd Darius eto ym [[Brwydr Gaugamela|mrwydr Gaugamela]] ar lan [[Afon Tigris]]. Ychydig yn ddiweddarach lladdwyd Darius gan ei ŵyr ei hun wrth iddo geisio ffoi am loches i ogledd [[Iran]].