Mausoleum Halicarnassus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
WIKI
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 14eg ganrif14g, 12fed ganrif12g using AWB
Llinell 4:
O ran ei adeiladwaith roedd iddo is-strwythr hirsgwar mawr, 440 troedfedd o gwmpas, wedi ei amgylchynu gan 36 [[Colofnau Groegaidd|colofn]], ac wedi ei goroni gan byramid 24 gradd gyda ''[[quadriga]]'' (cerbyd pedwar march) ar ei gopa, yn ôl [[Pliny'r Hynaf]] (''[[Naturalis Historia]]'' xxxvi, 30-31). Uchder y cofadail oedd 140 troedfedd ac roedd wedi'i baentio â phob lliw dan haul. [[Satyrus]] a [[Pythius]] oedd y penseiri a gwaith y cerflunwyr enwog Scopas, [[Bryaxis]], Timotheus a [[Leochares]] oedd y cerfluniau ar hyd ei ochrau.
 
Roedd y Mausoleum mewn cyflwr da hyd at y [[12fed ganrif12g]] O.C. ond dirywio fu ei hanes ar ôl hynny. Daeth [[Marchogion St John]] i'r ardal ar ddiwedd y [[14eg ganrif14g]] a dechrau ei ddefnyddio fel chwarel. Yn goron ar y fandaliaeth hon, toddwyd y cerfluniau marmor i wneud gwyngalch ar gyfer eu caer yn 1522. Darganfuwyd olion yr adeilad o'r newydd yn 1857 a symudwyd drylliau o'r cerfluniau i'r [[Yr Amgueddfa Brydeinig|Amgueddfa Brydeinig]]. Mae gwaith archaeolegol diweddar wedi datguddio safle'r Mausoleum ond ychydig sy'n aros ohono.
 
Rhoddwyd yr enw ''mausoleum'' gan y Rhufeiniaid ar eu cofadeilion hwythau, gan gynnwys Beddrod [[Hadrian]] yn Rhufain ([[Castell Sant Angelo]] heddiw).