Yr Undeb Sofietaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cyfeiriadau: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|fi}} (2) using AWB
B →‎Hanes: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
Llinell 51:
 
Arweiniwyd y [[Bolshevik]]iaid gan [[Vladimir Lenin]] a gorchfygwyd y Llywodraeth Dros-dro. Sefydlwyd "Gwladwriaeth Sofiet Sosialaidd, Ffederal Rwsia" a chychwynodd [[Rhyfel Cartref Rwsia]]. Cefnogwyd y Comiwnyddion gan y fyddin a chymerwyd drosod peth tir yn yr hen Ymerodraeth. Erbyn 1922 roedd hi'n amlwg mai'r Bolshevikiaid oedd wedi trechu a ffurfiwyd Undeb allan o'r is-weriniaethau llai megis Rwsia, Armenia, [[Gweriniaeth Sofietaidd yr Wcrain|Wcrain]] a [[Bielorwsia]]. Yn dilyn marwolaeth Lenin yn 1924, a mân-frwydrau am rym, daeth [[Joseph Stalin]] i'r brig yng nghanol y 1920au. Fe sodrodd ideoleg y wlad yn sownd mewn [[Marxiaeth–Lenini]] a dilynodd hynny drwy ganoli pwer ac economi'r Undeb. O ganlyniad gwelwyd twf aruthrol yn [[diwydiant|niwydiant]] a chyfunoliad y wlad. Cyflwynodd Stalin y [[Cynlluniau Pum Mlynedd]] a [[fferm cyfunol|ffermau cyfunol]]. Datblygodd yr Undeb Sofietaidd ac erbyn [[1922]] roedd yn wlad ddiwydiannol pwysig iawn. Roedd hyn yn ei pharatoi'n solad ar gyfer [[yr Ail Ryfel Byd]].<ref name="StalinRobertService">{{cite book | author = Robert Service| title = ''Stalin: a biography''| url = http://books.google.com/?id=ITKUPwAACAAJ| date = 9 Medi 2005| publisher = Picador| isbn = 978-0-330-41913-0 }}</ref> Pan welodd Stalin fod [[Ffasgaeth]] yn chwalu drwy'r wlad fel tân gwyllt, cychwynodd greu panig politicaidd a system garchardai'r ''[[Gwlag]]'' a barhaodd hyd at y 1950au.
[[FileDelwedd:Lenin-Trotsky 1920-05-20 Sverdlov Square (original).jpg|bawd|Lenin yn annerch y dorf yn 1920.]]
 
Cydnabyddwyd nerth yr Undeb Sofietaidd ers [[yr Ail Ryfel Byd]] oherwydd ei nerth milwrol, cymorth i wledydd datblygol ac ymchwil gwyddonol, yn bennaf ar gyfer technoleg gofod ac arfau. Fodd bynnag, roedd perthynas yr Undeb Sofietaidd a'r [[Unol Daleithiau]] wedi dirywio'n enbyd ac o ganlyniad dechreuodd y [[Rhyfel Oer]]. Adeiladwyd [[Sputnik I]], y lloeren gyntaf i gylchdroi'r ddaear yn yr Undeb Sofietaidd.