Nimrud: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Breckenheimer (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 2:
Dinas [[Assyria]]idd hynafol a leolir i'r de o [[Ninefeh]] ar lan [[afon Tigris]] ym [[Mesopotamia]] yw '''Nimrud'''. Roedd yn cynnwys tua 16 milltir agwar o fewn ei muriau. Lleolir yr adfeilion tua 30 km i'r de-ddwyrain o ddinas [[Mosul]] yn [[Irac]]. Un o'i henwau hynafol oedd ''Kalhu''. Fe'i galwyd yn Nimrud gan yr [[Arabiaid]] ar ôl yr arwr chwedlonol [[Nimrod (brenin)|Nimrod]] y cyfeirir ato yn y [[Beibl]] fel helwr nerthol (cf. Genesis 10:11-12; Micah 5:6; I Cronicl 1:10).
 
[[Delwedd:Portal Guardian from Nimroud. British Museum.jpg|thumbbawd|leftchwith|Ceidwad Porth o Nimrud. Amgueddfa Brydeinig]]
[[Delwedd:Nimrud stele.jpg|thumbbawd|rightdde|[[Stela]] o Nimrud.]]
 
Mae Nimrud wedi ei uniaethu â safle'r ddinas [[Beibl]]aidd '''Calah''' neu '''Kalakh'''. Cyhoeddwyd Nimrud yn brifddinas ymerodraeth Assyria gan y brenin [[Shalmaneser I]] yn y 13eg ganrif CC, pan oedd eisoes wedi sefyll am dros fil o flynyddoedd. Daeth yn enwog fel prifddinas y brenin mawr [[Ashurnasirpal II]] o Assyria (c. 880 CC). Cododd balas anferth a themlau yno. Disgrifir y wledd i ddathlu cwblhau'r gwaith yn 879 CC ar [[Stela|stele]] a ddarganfuwyd yno. Roedd tua 100,000 o bobl yn byw yno yn amser Ashurbannipal, ac roedd y ddinas yn addurnedig â [[gardd|gerddi]] [[botaneg]]ol a [[sw]]. Cododd y brenin [[Shalmaneser III]] (858-824 CC), mab Ashurbannipal, y [[Ziggurat]] Fawr a theml gerllaw. Atgyweirwyd y palas gan yr archaeolegwyr ac mae'n un o ddwy enghraifft yn unig o balas Assyriaidd, gyda phalas [[Sennacherib]] yn Nineveh.